Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

codi un diwrnod yn foreuach nag arferol, aeth y gŵr allan o'r tŷ, a chlywai ganu effeithiol yn rhywle uwchben, gan wahanol leisiau. Wedi iddo gyflawni ei neges, dychwelai yn ol tua'r tŷ, a gwelai ei wraig allan yn gwrando arno, yr hon, gydag iddi ei weled, a waeddai, "O! John Pierce, a glywch chwi y canu braf yna? Yr wyf fi yma yn gwrando arno, ymron er pan aethoch chwi allan."

Tro arall, gofynai un hen chwaer grefyddol, yr hon oedd yn byw y pryd hyny gerllaw capel y Carneddi, i mi, "A oedd rhyw foddion yn y capel nos Iau?" Atebais, nad oedd. "Felly," ebe hi, "yr oeddwn inau yn meddwl. Ond fe ddaeth geneth fach ataf o'r tŷ nesaf, gan lefain, Dowch allan, modryb, i glywed canu braf."

"Pa le y mae y canu?"

"Yn y capel-yn y capel." "Aethum allan, a chlywais megys swn tyrfa fawr yn moliannu Duw mewn hwyl."

Yn fuan wedi hyn, pan oedd gŵr o'r Deheudir, a'i gyfaill, yn pregethu, ymddangosai effeithiau nerthol yn dylyn y weinidogaeth, ac wrth ganu y pennill ar ddiwedd y cyfarfod,

"Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,"

torodd allan yn orfoledd anarferol, pryd yr oedd lluaws mawr o'r gynulleidfa wedi ymollwng mewn hwyl i foliannu Duw, am

—fan yn ymyl Duwdod,
I bechadur wneyd ei nyth."

"Yn mhen tuag awr neu ddwy ar ol y bregeth hon, aethum allan o dŷ y capel, lle yr oeddwn yn lletya, a meddyliais fy mod yn clywed y canu wybrenol fy hun. Daethum yn ebrwydd i'r tŷ, a dywedais hyny wrth y gwŷr dyeithr. Hwythau a ddaethant allan, a chlywsom ef oll yn eglur ac effeithiol. Torodd un o'r gwŷr dyeithr allan, yr hwn oedd hyd yn hyn yn lled amheus am wirionedd y peth, gan waeddi,—"Dyna fe yn siwr,—y mae yn fy ngherdded bob gwythien yn fy nghorff."

"Effeithiai ei glywed ar rai dynion nes y byddent, am ysbaid, yn methu siarad nac ymsymud. Clywais y Parch. Morris Jones, Carneddi, yn dweyd ei fod wedi cael y fath effaith arno ef, pan y'i clywodd, fel mai anhawdd oedd iddo allu cerdded o'r lle. Clywais hefyd y Parch. Evan Richardson, Caernarfon, yn dweyd, 'Yr oeddwn y Sabboth o'r blaen yn Llanberis, ac yn cadw society nos Sadwrn. Ar ol y cyfarfod eglwysig, adroddent wrthyf y modd y clywsent y canu yn yr awyr y sonid cymaint am dano; ond un o'r diaconiaid a'u dwrdient am adrodd y fath chwedlau disail a dychymygol, 'nid oes dim o'r fath beth yn bod,' meddai, 'peidiwch ag ynfydu.' Ond bu gorfod i'r gŵr goelio cyn myned adref. Oblegid rhoddwyd iddo glywed y 'peth dychymygol' ei hunan; a rhyfeddol fel yr effeithiodd arno. Prin y gallai ysgogi yn ei flaen, gan ei rym swynol, fel mai yn mhell ar y nos y cyrhaeddodd ef ei gartref. Bellach, nid oedd neb cadarnach nag ef; yr oedd ei sicrwydd yn awr yn cyfateb i'w amheuaeth o'r blaen."