Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwynt, ie yn wir, er yn waethaf iddynt, drethu amgylchiadau a symudiadau dynion er mwyn yr efengyl. Nid oes nemawr ddim a wasanaethodd yn fwy effeithiol na hyn, fel moddion allanol, i ddwyn yn mlaen Fethodistiaeth yn Nghymru. Anhawdd ydyw dychymygu am ddim a ddygwyd yn mlaen gyda llai o rag-fwriad, a rhag-ddarpariad dynol, a chyda mwy o arolygiaeth dwyfol. Nid oedd yma ddim rhagbarotoi a rhaglunio wedi bod gan y diwygwyr, ond ymroddent i'r gwaith â'u holl egni, gan ymddibynu yn llwyr ar ragluniaeth ac Ysbryd Duw am ffyniant a chynorthwy. Ni ymofynent ar eu cychwyniad allan, pa fodd y cyfarfyddent â'r rhwystrau a allent godi; ni chymerent arnynt ganfod rhwystrau, ond ymosod yn egniol at eu gwaith, gan adael y canlyniad i'w Meistr. Nid oedd ganddynt gysgod cyfundeb i'w hamddiffyn, na chynorthwy trysorfa i'w gwasanaethu; ond rhagluniaeth a ledodd ei haden drostynt, ac a weinyddodd adnoddau iddynt, mewn ffordd ac i raddau na ddysgwyliasent. Yr oedd eu dull yn myned allan yn wir apostolaidd, heb "na ffon nac ysgrepan," megys; troai llawer un o honynt allan, yn llawn o eiddigedd dros ogoniant Duw, ac o awydd i achub eneidiau dynion, heb wybod mwy nag Abraham ymron, i ba le yr oeddynt yn myned, na pha beth a ddygwyddai iddynt. Aent heb un anfoniad chwaith, ond a roddid iddynt oddifry. Eu llythyrau awdurdod a redent fel hyn, "Wele yr wyf fi yn eich danfon chwi fel defaid yn nghanol bleiddiaid;" a'u llythyrau canmoliaeth oeddynt y dysgyblion a ennillent at Grist. Duw, trwy ei Ysbryd, a'u cymhellasai i'r gwaith; a Duw, trwy ei Ysbryd, a'u llwyddai ynddo. Mae cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru yn llai ei ddyled i gyfundrefn ddynol, ac yn fwy ei ddyled i arolygiaeth ddwyfol, nag un cyfundeb o bobl grefyddol, mewn un wlad adnabyddus i mi. Duw a wnaeth hyn i ddangos ei gyfoeth dihysbydd, a'i ben-arglwyddiaeth goruchel ei hun, ac nid i achlesu seguryd ynom ni. Gwnaeth hyn yn adeg ein hangen; ond ni ellir dysgwyl hyn yn nhymhor ein hesgeulusdra. Rhoes i ni annogaeth ddigonol i ddysgwyl wrtho mewn cyfyngder, ond nid i'w demtio wrth ein blys.

Nid oedd y tadau Methodistaidd, tybygid, yn gofalu llawer dros dranoeth: nid oedd rhag-syllu ar amgylchiadau dyfodol, a dyfalu fwy na mwy yn nghylch pethau a allent ddygwydd, yn cael nemawr o le yn eu meddyliau: yn unig, amcanent gyflawni gorchwyl yr adeg, oddiar gariad at Fab Duw, gan ddibynu yn unplyg a gonest am gynorthwy Ysbryd Duw, heb ymlwytho dim yn nghylch pethau allan o'u cyrhaedd, nac ymflino dim yn nghylch amgylchiadau ag oeddynt allan o'u golwg. Pe rhoisid iddynt olwg ar wedd Methodistiaeth yn mhen can mlynedd i ddyfod, teimlasent, ond odid, eu meddyliau yn ymddyrysu mewn gofal a phryder. Pe rhoddasid ar ddeall iddynt yn mlaen llaw, y byddai raid cael yn mhen tua chan mlynedd, oddeutu 800 o dai addoliad, ac y disgynai arnynt ofal am gael tua 200,000 o bunnau i'w hadeiladu, buasai y rhag-ofal yn ddigon i leithio ysbryd Howel Harris ei hun! Pe rhoisid iddynt wybod yr esgorai eu gwaith hwy yn troi allan ar hyd ac ar led y gwledydd, ar amgylchiadau a osodai eu holynwyr dan