rwymau cydwybod i fugeilio pedwar ugain mil o eneidiau, ac i ofalu am athrawon i ddau cant o filoedd o ieuenctyd Cymru ar y Sabbothau, tybiwn y buasai maint yr anturiaeth yn effeithio er lwfrdra a digalondid; gofynasent mewn pryder, ie, mewn anobaith, "Pa le y gall neb ddigoni y rhai hyn?" a dywedasant wrth Dduw, fel y dywedodd Moses, "O Arglwydd, danfon, atolwg, gyda'r hwn a ddanfonych, ond nid gyda ni. Nid oes genym na chyfoeth nac awdurdod, gwroldeb na medrusrwydd, i'r fath orchwyl tra phwysig." Ond ni roddwyd iddynt edrych i mewn i amserau nac amgylchiadau dyfodol, ond gweithio, pob un ei ran, yn ei dymhor, o dan arolygiaeth UN nad oes dim yn anhawdd iddo; UN nad yw angau byth yn terfynu ei oes, nac angenoctid byth yn dyhysbyddu ei drysor.
Er na chyfrifir troedigaeth pechadur i ddim nac i neb ond i Ysbryd Duw fel Gweithredydd, ac i air Duw fel moddion; eto, nid anmhriodol ydyw y syniad fod goruchwyliaeth rhagluniaeth yn fynych yn gwasanaethu i'r un dyben, trwy gyd-gyfarfyddiad gwahanol amgylchiadau, fel ag i ddwyn dyn i swn efengyl, neu i ddwyn y gwirionedd gyda mwy o rym a dwysder at y meddwl. Y gair yw yr had; ond yr aradr a fydd yn aml yn parotoi ei le, trwy rwygo y tir, ydyw rhagluniaeth. Cyferfydd Duw â dynion weithiau mewn ffordd nad oedd lle i'w ddysgwyl, ac fe'u harwain ar hyd llwybrau nid adnabuant, ac at orchwylion na fwriadent. Ymddengys llawer o hynyma yn hanes Methodistiaeth Cymru. Yr oedd mwy o'r nodwedd rhagluniaethol hwn, fe allai, ar yr hanner canrif cyntaf o'i hanes, nag a welwyd ar ol hyny. Gosodwyd mwy o hynodrwydd yn ngwedd yr oruchwyliaeth yn ei chychwyniad, nag mewn tymhor diweddarach ar ei hanes; nid fod llai o law Duw yn gweithio yn y tymhor hwn, ond fod y gweithrediad yn fwy cydweddol â gosodiadau cyffredinol, ac felly yn llai hynod. Yr un peth a ellir ei ddweyd am bethau eraill. Mae eu dechreuad yn fwy hynod na'u parhad a'u cynydd. Mae cread peth o ddim yn fwy hynod nag ydyw cynaliad y peth, am ei fod yn fwy amlwg o Dduw, a hyny trwy weithrediad uniongyrchol; tra y mae cynaliad a pharhad y peth yn cael ei ddal i fyny, gan mwyaf, trwy gyfrwng moddion neu ddeddfau sefydlog. Yr un modd y mae dychweliad pechadur at Dduw, y waith gyntaf, yn fwy nodedig, ac yn peri mwy o sylw, nag ydyw ei amaethiad a'i gynydd mewn santeiddrwydd yn ystod ei yrfa Gristionogol, er nad oes un mymryn llai o Dduw yn y naill nag yn y llall.
Yn nghychwyniad Methodistiaeth Cymru, nid oedd nemawr o'r moddion cyffredin a ddefnyddir yn amlaf gan yr Ysbryd Glân i ddychwelyd dynion, ar gael. Ychydig, fel y gwelsom, o weinidogaeth bywyd oedd yn y pulpud yn un rhan o Gymru, ac anfynych y cyfarfyddid â llyfr y bywyd yn nwylaw neb o'r trigolion. Nid oedd yr un gyfundrefn ddynol, chwaith, mewn gweithrediad yn mysg y genedl, trwy yr hon y dygid geiriau y bywyd tragwyddol at glustiau, chwaithach at gydwybodau, nemawr o honynt. Dan yr amgylchiadau hyn, fe gododd yr adfywiad ei ben mewn gwedd hynod, allan o'r llwybr cyffredin, ac mewn ffurf nad oedd neb yn ei ddysgwyl. Nid oedd yn ol rheolau yr eglwys wladol, nac ychwaith yn ol cynllun yr ym-