Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/297

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd, yr oedd ei hyfrydwch. Ni fu gywilydd ganddi Fethodistiaeth, pan ydoedd mewn gwedd isel, a gwasanaethodd y cyfundeb, yn mhob modd o fewn ei chyrhaedd, hyd ddydd ei marwolaeth.

Wele yma olwg ar yr effeithiau a ddylynasant fynediad y bugail defaid, yn fachgenyn diamddiffyn mewn cydmhariaeth, i Lundain! Effeithiau mawrion iddo ei hun, ac i Fethodistiaeth Calfinaidd yn y rhan hyny o'r wlad! Effeithiau y mae eu dylanwad yn parhau, ac a barhâ, ond odid, hyd genedlaethau lawer, ie, hyd froydd gogoneddus y tragwyddolfyd mawr!

Yr oedd ardaloedd Llanarmon-yn-Iâl, ar derfynau siroedd Dinbych a Fflint, er ys oesoedd yn gorwedd mewn diofalwch perffaith am bethau tragwyddol. Nid oedd neb yn codi ei lef i ddeffroi y trigolion cysglyd, a'u rhybuddio i ffoi rhag y llid a fydd. Nid oedd yr un tŷ yn agored i dderbyn pregethwr iddo, pe buasai pregethwr i'w gael. Tybiai pawb fod yr ychydig ddefodau a arferid ganddynt yn llawn digon o grefydd, a safent yn ddiysgog at ffordd eu tadau. "Er mai eu ffordd yma oedd eu hynfydrwydd, eto eu hiliogaeth oeddynt foddlon i'w hymadrodd hwynt." Ond yr amser a ddaeth i belydrau goleuni gael tywynu ar y broydd tywyll hyn; ond pa fodd? Rhagluniaeth Duw, yn ei throion rhyfeddol, a balmantodd y ffordd; a hyny nid trwy foddion rhwysgfawr, cynlluniau dynol, ac ymosodiadau gorchestol, eithr megys trwy losgiad a chynud tân! Gwasgwyd rhyw ddyn tlawd yn y gymydogaeth, o'r enw Siôn Llwyd, gan amgylchiadau cyfyng, i grwydro gan belled a'r Deheudir i ymofyn am waith, rhag llewygu o hono ef a'i deulu. Yno, mewn lle dyeithr, ac yn mysg estroniaid yn byw, fe gyfarfu gras Duw ag ef, ac "a roddodd ynddo beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel." Dychwelodd adref drachefn, gan eiddigeddu dros lesâd ysbrydol ei hen gymydogion. Nid oedd ei fwthyn ond gwael, ond fe fynai ei gysegru i'r efengyl; ac nid oedd ei sefyllfa ond tlawd, ond yr oedd ei galon yn uniawn gyda Duw. Bwthyn tlawd y dyn hwn a fu y llygedyn y cafodd yr efengyl, trwy y Methodistiaid, le i roddi ei throed i lawr arno. Ennillwyd cyn hir i fysg y dysgyblion tlodion wraig o radd uwch na'r cyffredin, sef Mrs. Davies, Rhiw-iâl, yr hon a roes swcr chwanegol i'r achos bychan; a chyn llawer o amser, disgynodd yn yr ardal ŵr cyfrifol o bregethwr, yr hwn a yrasid o wlad ei enedigaeth, gan erlidigaeth, i breswylio ynddi, a'r hwn a fu yn dra defnyddiol yn y fro tra y bu ef yno yn aros, sef John Edwards, Gelligynan; yr hwn a fu farw yn Mhlas-yn-Nghaerwys; am yr hwn y bydd genym air chwanegol i'w ddweyd, yn hanes sir Fflint.

Prin y gallwn edrych ar un rhan o Gymru, heb ganfod ol llaw rhagluniaeth yn agor ffordd, ac yn darpar moddion i rwyddhau a grymuso mynediad y diwygiad yn ei flaen. Mewn rhai amgylchiadau, fe ddichon fod rhyw ddarpariaeth yn cael ei gwneuthur gan gyfundeb neu gymdeithas o bobl grefyddol, tuag at ffurfio cronfa, er cynal pregethwyr, ac adeiladu tai addoliad. Dichon fod rhyw bersonau yn cael eu nodi i fwrw golwg ar ansawdd parth o wlad, mewn modd swyddol, ac i ymofyn am ryw ddrws agored, trwy yr hwn y gellid dwyn yr efengyl i mewn. Ond yn hanes Methodistiaeth Cymru,