Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysylltiad ag eglwys Loegr y dylasai lafurio. Rhaid, gan hyny, oedd ei ddiddyfnu yn fwy eto oddiwrthi. Gwnaed hyn trwy yr anhawsder a brofai i gael ei ryddid i wneuthur daioni yn y ffordd ac i'r graddau ag y teimlai rwymau cydwybod arno i wneuthur. Codid achwynion yn ei erbyn yn nghylch defnydd a dull ei weinidogaeth: dychymygai rhywun neu gilydd fod gormod o sawyr Methodist arno, fod ei fywyd yn rhy fanwl, a'i bregethau yn rhy lymion. Cyfarfyddai ag ergydion atgas oddiwrth ficer neu rector, a theimlai oddiwrth anniddigrwydd hwn ac arall o'r boneddwyr, nes oedd ei ysbryd yn ymdoddi i ewyllys Duw, a disgynai ei feddwl i'r penderfyniad, mai yn mhlith y bobl ddirmygedig hyny, y Methodistiaid, y mynai rhagluniaeth Duw iddo dreulio ei oes.

Trwy yr oruchwyliaeth o ddwyn Mr. Charles i blith y diwygwyr y gwnaeth rhagluniaeth wasanaeth anmhrisiadwy i Gymru, ac i Fethodistiaeth Cymru. Rhoddwyd ysgogiad anarferol i'r achos crefyddol, drwy y tro hwn. Fe fu presenoldeb gŵr o'i ddysg a'i sefyllfa ef yn foddion arbenig i ddirymu rhagfarn llawer, na fynent i neb eu gweled er dim yn mhlith pobl mor dlodion ac isel a'r Methodistiaid. Ennillodd hynawsedd ei ysbryd, a dichlynrwydd ei fywyd, lawer yn ychwaneg. Ond ei bregethau efengylaidd, ei ysgrifeniadau defnyddiol, ac yn enwedig yr ysgolion dyddiol a Sabbothol a sefydlodd, a ennillodd fwy na'r cwbl. Rhaid edrych ar ddyfodiad Mr. Charles at y Methodistiaid yn gyfnod arbenig yn eu hanes. Os cafodd Methodistiaeth ysgogiad adnewyddol trwy sefydliad Mr. Jones yn Llangan, ugain mlynedd yn ol, cafodd ysgogiad cryfach a mwy parhaol trwy sefydliad Mr. Charles yn y Bala. Yr un rhagluniaeth ag a ddygasai John Evans, ddeugain mlynedd yn ol, i'r dref hono, a ddygodd Mr. Charles hefyd i'r lle hwnw i breswylio; a thrwy hyn y gwnaed y Bala i'r Gogledd, am lawer o flynyddoedd, yr hyn oedd Llangeitho yn y Deheudir. Fe ddaethai John Evans i'r dref hono yn llencyn anwybodus mewn cydmhariaeth, ac yn ffoadur o'i wlad, rhag ei alw i fod yn dyst ar ddydd brawd. Arweiniwyd ef i'r Bala ar fedr myned yn ei flaen tua sir Aberteifi; ond goruwch-lywodraethodd rhagluniaeth Duw ei amcanion, a sefydlodd ef yn y Bala. Yn y dref hon y cafodd ei gyfnewid trwy ras; yma cyfarfu â chydmhares ei fywyd; ac yma, yn benaf, y parhaodd i wasgar arogledd hyfryd crefydd Mab Duw, trwy nodweddiad anrhydeddus y Cristion, a chynghorion doeth y bugail: hyn hefyd a wnaeth am dymhor maith, nid llai na deng mlynedd a thriugain

Gŵr a fu yn ddefnyddiol iawn, yn ei gylch ei hun yn enwedig, oedd y Parch. Evan Richards, Caernarfon; gŵr y mae ei goffadwriaeth yn felys ac anwyl gan bawb a'i hadwaenai. Yn hanes y gŵr hwn hefyd, ymddengys llaw rhagluniaeth ddwyfol yn ei arwain o gam i gam, nes ymsefydlu o hono yn Nghaernarfon. Collasai, trwy ei grefydd, wên ei dad, a thaflwyd ef, bellach, i'r byd llydan heb nemawr swcr ond rhagluniaeth Duw. Arweiniwyd ef i gadw ysgol i Frynengan, a rhai manau eraill yn sir Gaernarfon, ond yn benaf yn nhref Caernarfon, yn yr hon y bu yn llafurio am agos i ddeugain mlynedd. Cymeryd ei arwain a wnaeth yntau gan amneidiau rhagluniaeth;