Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r diwedd, syrthio i gydffurfiad cyffredinol â hi: ac fel prawf o'r ymollyngiad hwn, ni a gawn i esgobion Deau a Gogledd Cymru, tua'r fl. 777, gytuno i gadw y Pasg yn ol amser a defod eglwys Rhufain; ond nid y pryd hyny heb radd o derfysg anfoddog yn mhlith llawer o'r eglwysi.

O'r pryd hwn, nid yw hanes crefydd yn Nghymru ond cyffelyb ag ydyw hanes Pabyddiaeth yn mhob gwlad arall ar y pryd. Nid oes, bellach, ond son am gyfoethogi yr eglwys trwy bob moddion; sefydlu y degwm; ordeinio penydau; a chodi a gwaddoli mynachlogydd. Yr oedd crefydd yn cael ei hystyried yn gynwysedig, nid mewn ufydd-dod calon a buchedd i air Duw, ond mewn ymostyngiad trwyadl i awdurdodau yr eglwys, a chydymffurfiad perffaith â'i defodau. Gofalid, ar yr un pryd, fod yr holl osodiadau, a chyfreithiau eglwysig, yn tueddu i gadarnhau awdurdod y gwŷr llên, ac i ddarostwng y gwŷr lleŷg i iselder gwasaidd, ac i gaethiwed haearnaidd ofergoeledd yr oes. Gosodiad rheolaidd mewn swydd, ac nid cymhwysder iddi, oedd y cwbl a edrychid arno. Digon yn yr oesoedd tywyll hyny oedd cyflawni y defodau eglwysig, heb un mymryn o ysbryd addoli. Nid oedd crefydd, mewn gair, ond gwasanaeth i ddynion, dan enw eglwys, ac nid ufydd-dod i Dduw.

Nid rhyfedd, ynte, fod llygredigaeth y wlad yn anfad. Yr oedd tywyllwch Aiphtaidd yn amdoi y trigolion y'mron bawb; pregethid yr angenrheidrwydd o ymroddi i adennill Jerusalem o ddwylaw y Mahometaniaid, a hyny gan archesgob, i'r hwn y rhoddai y tywysogion Cymreig bob parch ac ufydd-dod; ond nid oedd son am yr angenrheidrwydd am edifeirwch tuag at Dduw, nac am ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac os oedd gwŷr urddasol yn ddigon hyf ac ofergoelus i bregethu hyn, yr oedd y trigolion, yn wreng a boneddig, yn ddigon anwybodus i gredu hyn. Ymrestrodd miloedd o Gymry, meddynt, yn rhyfelwyr y groes; anturiasant eu bywydau, ac offrymasant eu holl feddiannau, gan adael eu gwlad a'u teuluoedd, oddiar frwdfrydedd penboeth, i ennill Jerusalem oddiar yr anffyddiaid. Y pryd hyn, yr oedd attal y degwm yn annhraethol fwy pechadurus na godineb, neu gelwydd. Trwy benyd bychan y pwrcasid maddeuant am bechodau yn erbyn Duw; ond â "swm mawr" y gellid cael ymwared pan y byddai neb yn euog o bechu yn erbyn gosodiadau'r eglwys. Y mae agos yn annghredadwy genym ni, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pa fodd y gallai dynion, dan rith Cristionogaeth, gyflawni gyda'r fath ddigywilydd-dra, y pethau a gyflawnid ganddynt; a braidd na theimlem demtasiwn i feddwl fod y darluniad a roddir i ni o'r oesoedd hyny yn annghywir, neu ynte, wedi ei orliwio yn ormodol: eto, wrth gofio fod yr holl wlad yn amddifad o air Duw, ac nad oes dim yn rhy anfad a digywilydd gan ddynion i'w gyflawni, am y gallant gyrhaedd awdurdod, cyfoeth, a bri, y mae ein syndod yn lliniaru; a gorfydd i ni, gyda galar, gydnabod, mai gwir ydyw y darluniad a roddir i ni, nid yn unig o Gymru, ond o holl Gyfandir Ewrop, dan rwysg cyflawn Pabyddiaeth, trwy ystod canrifoedd yr oesoedd tywyll.

Yr oedd gresyni sefyllfa y Cymry yn fwy, oblegid eu bod, am faith flynyddau, dan ruthriadau gwastadol eu gelynion. Yr oedd eiddigedd ysol rhyng-