ddi i'w cartrefi, i roddi gair o gynghor iddynt. Safodd llawer o honynt i wrando, a dwysbigwyd rhai dan y bregeth hono, y rhai a fuant ffyddlon dros Dduw hyd ddiwedd eu hoes.
Yn yr hanesyn bychan hwn, y mae ymroddiad aiddgar yr amaethwr, parodrwydd ac anfantais y pregethwr, a boddlonrwydd y nef, yn cyd-ymddangos. Y cyfryw ydoedd y crefyddwyr boreol hyny; a thrwy y cyfryw foddion gwael a dystadl y gwelai Duw yn dda alw pechaduriaid, a lluosogi ei bobl.
Clywodd Lewis Evan, Llanllugan, sir Drefaldwyn, Howel Harris yn pregethu y tro cyntaf, mae yn debyg, y bu yn y Gogledd, a brathwyd ef yn ei galon. O hyny allan, yr oedd yn ddyn newydd. Yr ysgrythyrau oeddynt, bellach, ei holl hyfrydwch, a buan y cyrhaeddodd fesur helaeth o wybod aeth ynddynt. Dechreuodd yn awr eiddigeddu am hysbysu i'w gymydogion y pethau a wyddai am Dduw, cyflwr dyn, a'i waredigaeth. Ai, gan hyny, a'i Feibl gydag ef, o dŷ i dŷ, i ddarllen y gair i'r teuluoedd a'i derbynient. Nid oedd ar y pryd y dechreuodd hyn ond tuag ugain oed. Nid oedd ei sefyllfa ond isel: gwŷdd ydoedd wrth ei grefft: ond yr oedd yn ddyn siriol ei dymherau, a bywiog ac effro iawn. Ni adawai i neb fyned heibio iddo, heb wneuthur cais ar alw eu sylw at bethau Duw. Ymgasglai nifer o gymydogion at eu gilydd i'r teulu lle y dysgwylid ei fod yn dyfod, a rhoddid mantais iddo yn y modd yma i draethu wrth ei gyd-ddynion am fawrion weithredoedd Duw. Gwnaeth Lewis Evan hyn heb gymhelliad, nac esiampl ddynol; yn unig oddiar wir awyddfryd i wneuthur daioni. Dywedid am y gŵr hwn, gan mor ddiwyd ydoedd yn y tai, ar y ffordd, ac yn y pulpud, yn adrodd yr ysgrythyrau, ei fod yn cadw ysgol Sabbothol hanner can mlynedd cyn son am dani. Dysgu rhywun y byddai yn wastad, o foreu hyd hwyr,— y plant, y gweision, a'r morwynion, yn gystal a phenau y teulu y dygwyddai fod ynddo, a'r dyeithr-ddyn a gyfarfyddai ar y ffordd. Yr oedd yn wir yn "ganwyll yn llosgi ac yn goleuo."
Dyoddefai llawer o'r Methodistiaid cyntaf lawer oddiwrth eu perthynasau, ac oddiwrth eraill, o herwydd eu hymlyniad wrth y bobl a elwid y Cradocs, a'r penau cryniaid. Dyoddefai plant lawer oddiwrth eu rhieni, a gwŷr a gwragedd oddiwrth eu gilydd. Bu llawer meistr tir yn galed a thost wrth wraig weddw, a phlant amddifaid, am yr unig fai o fyned i wrando yr efengyl i le nad oeddynt hwy yn ei gymeradwyo. A hynod mor addfwyn a llariaidd y dyoddefent hwythau y cam a wneid â hwy, a'r enllibiau a fwrid arnynt. Ennillodd llawer gwraig ei gŵr, trwy fwyneidd-dra ei hysbryd, i feddwl yn dda am grefydd, ac i'w hamddiffyn rhag y chwedlau celwyddog a ledaenid am dani. Llawer tad a mam erlidgar a gymhellwyd i ddweyd am eu plant crefyddol, "Pa beth bynag ydyw crefydd y bobl ddyeithr hyn, nid yw ein plant ni ddim gwaeth o'i phlegid." Ennillodd llawer llances o forwyn ei lle yn meddwl ac ymddiried ei meistres, trwy ei diwydrwydd a'i ffyddlondeb, er nad oedd ond y dygasedd mwyaf at ei phroffes; ac yn y diwedd, ennillwyd y feistres ei hun i wrando yr un weinidogaeth, ac i broffesu yr un grefydd. Ceisiodd morwynig yn Lleyn, yn sir Gaernarfon, gan ei meistres, ar ddi-