Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/307

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrnod nodedig, fyned i wrando gŵr dyeithr o'r Deheudir ag oedd i'w ddysgwyl i bregethu yn yr ardal. Gwylltiodd ei meistres wrthi, a dywedodd, "Gwrando y penau cryniaid! na wnaf byth; ac oni bae dy fod di yn llances dda dy waith, a gonest dy waelod, ni chait ti, na neb arall o'r fath, aros dan fy nghronglwyd un diwrnod." Eto, er hyn, perswadiwyd ei meistres i fyned am unwaith i wrando, dan rith rhyw esgus; ac yn yr unwaith hwnw, derbyniodd saeth i'w chydwybod, na allodd ei hysgwyd ymaith; a daeth y wraig hono i fod yn un o'r rhai mwyaf ymgeleddgar i achos yr efengyl o neb yn ei gwlad.

Nid oedd y proffeswyr cyntaf yn gadael llonydd ymron i neb, heb eu taer gymhell i ddyfod i wrando, pan y dygwyddai fod pregeth i'w dysgwyl. Ai un wraig dlawd, yn Mhenrhyn-deudraeth, i weithio diwrnod yn y cynhauaf, i hwn ac arall, heb gymeryd un tâl ganddynt, er mwyn eu gosod dan ryw fath o rwymau i ddyfod i wrando yr efengyl ar ei chais. Y mae yn anghredadwy ymron, pa faint a lafuriai yr henafiaid i gael pregethu i'w hardaloedd, ar ddechreuad y diwygiad. Aent ar eu traed i Langeitho, o wahanol barthau yn y De a'r Gogledd, i ymofyn am gyhoeddiadau gwŷr dyeithr i ddyfod i ymweled â hwynt. Ar y Sul cymundeb, fel y crybwyllwyd o'r blaen, ymgrynhoai luaws o gynghorwyr ac aelodau cyffredin yno, a rhoddid iddynt gyfleusdra, drwy hyny, i gyfarfod â'u gilydd, a threfnu pa bryd a pha fodd i ddyfod. Nid digon ganddynt oedd cael mwynhau gweinidogaeth Rowlands eu hunain yn Llangeitho; ond llafurient â'u holl egni, i gael ganddo ef, neu rywrai o'i frodyr, ddyfod i ymweled â'u hardaloedd; ac anfynych y byddai eu llafur yn ofer. Gwnaethpwyd hyn gan lawer benyw. Dyledus ydyw llawer parth o Gymru i lawer merch, am sefydliad yr achos crefyddol ynddynt. Trwy lawer o anhawsderau yr aeth y cyfryw rai o'u cartrefi, gan deithio ugeiniau o filldiroedd, dros fynyddoedd mawrion ac oerion, ac ar hyd ffyrdd anhygyrch, heb un amcan yn eu golwg ond llesâd ysbrydol iddynt eu hunain, ac ymofyn am foddion llesâd ysbrydol i'w cymydogion.

Yr oedd y cywair aiddgar hwn ar feddyliau y proffeswyr, yn foddion arbenig i chwanegu cynydd y cyfundeb. Dywedir i lafur un wraig o'r enw Lowri Williams, o Bandy'r Ddwyryd, fod yn foddion i blanu deunaw o eglwysi yn y rhan hono o sir Feirionydd, sef yn nghymydogaethau y Penrhyn, Maentwrog, Trawsfynydd, &c., y rhai a gynyddasant, yn ei hoes hi, i fil o aelodau. O ddechreuad bychan y mae llawer o bethau mawrion yn cyfodi. Yr oedd y dull yr argyhoeddwyd yr hen bobl; dwysder yr oruchwyliaeth a brofasent; y tywyllwch caddugol a'u hamgylchent; y gwylio sarffaidd oedd ar eu hymddygiadau; yr ymosod oedd arnynt beunydd, mewn gwawd a gorthrymder;-oll yn tueddu, mor belled ag y gallai amgylchiadau effeithio, i'w cadw yn effro, yn wyliadwrus, ac yn agos at Dduw. Rhoddid iddynt fwynhad yn moddion gras, ag oedd yn cyfateb i'w hamgylchiadau gofidus. Yr oedd eu hamgylchiadau hwy yn fwy trallodedig, a'u llawenydd hefyd yn fwy helaeth, na'r eiddom ni. Yr oedd eu nerth yn cyfateb i'w dydd.