Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/318

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Minau a aethum gofynodd y gŵr parchedig i mi lawer o bethau yn nghylch fy mater ysbrydol; a gofynodd hefyd, Paham y deuwn mor bell oddicartref i wrando? Dywedais fy mod i wedi bod yn y llanau o amgylch fy nghartref, ac wedi gwrando mor fanwl ag y gallwn, ond nad oeddwn yn cael dim tawelwch i fy ysbryd; ond fy mod yn cael gradd o hyny wrth wrando ar ei weinidogaeth ef. Gofynai drachefn,—

A oes dim o'r bobl a elwir Methodistiaid yn pregethu yn yr ardal?" "Oes," ebe finau, "ond ni fyddaf fi un amser yn myned i'w gwrando hwy."

"Paham hyny ?" ebe'r offeiriad.

"Wel, Syr," ebe finau, "deall a wnaethum mai y gau-broffwydi a ddarlunir gan Judas, a chan yr apostolion eraill, ydynt, y rhai y dylwn ar bob cyfrif eugochel."

"Nage," ebe'r offeiriad; "ond oddiar ragfarn a gelyniaeth yn unig y darlunir hwy felly. Byddai yn dda genyf fi fy hun gael cyfleusdra i'w gwrando yn fynych. Nid oes dim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a minau mewn athrawiaeth; oblegid yr un Beibl ydyw testyn ein pregethau, yr eiddynt hwy a'r eiddof finau. Cynghorwn chwi druan, gan hyny, i ymuno â hwy."

Ymuno â'r Methodistiaid a wnaeth, yn ol cynghor offeiriad Llanberis, a threuliodd weddill ei oes yn ffyddlawn iawn yn eu plith. Bu ei dŷ o hyn allan yn gartref i arch Duw, ac yn llety clyd i weinidogion y gair, lle y derbynient hwy a'u hanifeiliaid ymgeledd a chroesaw. Gellir dweyd ar seiliau cedyrn, fod yr Arglwydd wedi bendithio ei dŷ fel tŷ Obededom, er mwyn yr arch. Pan ddaeth at grefydd gyntaf, yr oedd ei amgylchiadau yn isel a helbulus. Yr oedd ei lafur mor fawr i gael pregethu i'w ardal, a'r holl faich o'i gynal yn disgyn yn mron yn llwyr arno ef ei hun, fel yr ofnai rhai brodyr crefyddol y gwnaethai ef gam a'i amgylchiadau, a thrwy hyny i grefydd gael ei chablu. Yr oedd y brodyr tua'r Dyffryn a Harlech yn canfod hyn, ond yn methu gan eu tlodi ag estyn ymwared arianol iddo; am hyny, ymgynghorasant i anfon dau neu dri o frodyr ato i'w gynghori yn daer i beidio a galw am gymaint o foddion, gan y barnent fod y draul anocheladwy yn fwy nag y tybient y medrai ef ei gynal; ac mai gresyn a fyddai iddo ddyrysu yn ei amgylchiadau y rhoddai hyny archoll dwfn i achos crefydd yn ei wendid a'i fabandod yn yr ardal. Wedi traethu eu cenadwri ato trwy y fath ymadroddion, ymollyngodd Robert Roberts i wylo, gan ddywedyd mewn dull ́a llais trallodus iawn, "Da chwi, gadewch i'r pregethwyr ddyfod fel arferol, ac na phrinhaer dim ar foddion gras yn yr ardal; oblegid yr ydwyf fi yn well arnaf o gan' punt eisoes!"

Mae llawer un sydd eto yn fyw mewn De a Gogledd, yn cofio hen wraig hynod o'r enw Susan, yn byw yn Nghroesoswallt, tref yn sir Amwythig, yn terfynu ar siroedd Trefaldwyn a Dinbych. Gan fod "modryb Susan," yn un o hynod "ffyddloniaid y tir," ac wedi gwasanaethu achos yr efengyl yn fwy na llawer, gresyn fyddai gollwng ei choffadwriaeth i ddiflanu, gan fod