Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo arogledd mor hyfryd a bendigedig. Ganesid Susan yn un o gyrau uchaf sir Drefaldwyn, ac nid yw yn hysbys pa beth a fu yn achlysur o'i dyfodiad i Groesoswallt i aneddu. Tybygol ydyw mai amgylchiadau o gyfyngder, yn nhrefn rhagluniaeth y nef, a'i harweiniodd yno, a hyny i ddybenion anadnabyddus iddi hi. Nid hwn ydyw y tro cyntaf i ragluniaeth Duw, trwy symud neu osod terfynau preswylfeydd dynion, wasanaethu i ledaeniad yr efengyl. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Ymddengys wrth yr hanes fod Susan wedi profi rhyw gymaint o felysder yr efengyl cyn ymadael â'i bro genedigol; ac wrth gefnu ar ei chyfeillion crefyddol, a'i hen gymydogion, ni chiliodd Susan "oddiar ol yr Arglwydd." Glynasai egwyddorion grasol yn ei chalon; a pharhâai i deimlo eu dylanwad wedi dyfod megys yn alltudes i ganol estroniaid. Pregethai y Methodistiaid y pryd hyny yn mhlwyf Llanarmon-Dyffryn-Ceiriog, bro yn nghanol y mynyddoedd, tua deng milldir i'r gorllewin o Groesoswallt. Dygwyddodd yma, fel mewn llawer o fanau eraill, mai nid ymosod ar y trefydd mawr a wnai yr hen ddiwygwyr yn gyntaf, ond ar y wlad o amgylch iddynt; ac wedi talm o amser o bosibl, wedi ymwreiddio graddau yn yr ardaloedd cylchynol, yr anturient i'r trefydd cyfagos. Felly yr oedd yn y lle hwn. Yr oedd pregethu gan y Methodistiaid yn y mynyddoedd cyfagos, fwy na hanner can mlynedd, cyn sefydlu cynulleidfa reolaidd yn y dref hon. Trwy farchnata mewn ymenyn, caws, a nwyddau cyffelyb, fel y bernir, fe ddaeth Susan yn lled fuan yn gydnabyddus â chyfeillion crefyddol Llanarmon.

Rywbryd ar ol hyn, dygwyddodd fod cyhoeddiad John Ellis o'r Abermaw i ddyfod i Lanarmon i bregethu; a chan mor werthfawr oedd gair yr Arglwydd yn y dyddiau hyny, gwahoddwyd Susan i ddyfod trosodd i'w wrando. Achubodd hithau y cyfleusdra i fyned, a llwyddodd hefyd gyda'r pregethwr i roddi cyhoeddiad i ddyfod i Groesoswallt. Yn y cyfamser, gofalodd yr hen chwaer ar fod pob rhagbarotoad angenrheidiol yn cael ei wneyd erbyn dyfodiad "gŵr Duw." Mynodd drwyddedu y tŷ, a gofalodd hysbysu i'r holl Gymry a allai eu cyrhaedd, fod y gŵr dyeithr i'w ddysgwyl yno i bregethu Cymraeg; yn hytrach, i bregethu yr efengyl yn yr iaith Gymraeg. Parodd hyn gryn swn, a gwnaeth oferwyr y dref hefyd barotoadau i dderbyn y pengrwn dyeithr. Y diwrnod a ddaeth; ac yn ol ei addewid, yr oedd y pregethwr hefyd wedi dyfod. Ymgasglodd hefyd gannoedd o ddynion o amgylch y lle, y rhai oeddynt, gan mwyaf, y dyhirwyr cyhoeddusaf yn y dref. Daethent yno, nid i wrando, ond i aflonyddu;-nid i addoli, ond i erlid y sawl a ddeuent yno i addoli. Yr oedd y tŷ yn sefyll ychydig ar gîl, allan o'r heol gyhoeddus, i lawr rhyw dramwyfa (passage) yn heol-yr-eglwys, gerllaw y Bell Inn. Daethai ychydig o gyfeillion o'r wlad gyda John Ellis i'r dref. Pa fodd bynag, yn fuan wedi i'r moddion ddechreu, dyma ddyn yn dyfod i mewn, ac yn myned yn syth at y pregethwr, gan orchymyn iddo awdurdodol iawn i ddyfod i lawr, a dyfod gydag ef o flaen maer y dref. Dangosai y pregethwr ar y cyntaf radd o anfoddlonrwydd i ufyddhau i'r cais; ond ar waith y swyddog yn bygwth "hollti ei ben" â'i ffon, oni ddeuai yn y