Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/321

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd y dangosai y deigryn yn ei llygad mai nid ymadrodd heb ystyr iddo ydoedd ganddi hi.

Gofalodd rhagluniaeth am yr hen wraig dduwiol hon, pan oedd gyfyng arni gan dlodi a henaint. Tua diwedd ei hoes, yr oedd casgliad yn cael ei wneuthur i leihau dyled yr ail gapel a adeiladasai y Cymry yn y dref; a thybiai modryb Susan y dylasai hithau fwrw rhyw gymaint i'r drysorfa. Yr oedd ei masnach wedi darfod er's blynyddau; hithau a ennillai geiniog, yn ddigon prin, oddiwrth osod llety i hwn ac arall; ac yn fynych, rhaid oedd wrth law elusen i wneyd y gweddill i fyny. Eto yr oedd wedi cysegru dau swllt at yr addoldy,—"yr hyn oll oedd ganddi."

Cyn i'r arian hyn gael eu rhoddi, dygwyddodd i gyfaill droi i mewn i edrych am dani, a throes yr ymddyddan ar destyn yr adeg yn mysg y cyfeillion crefyddol, sef y casgliad at y capel. Adroddodd Susan iddo ei bod wedi rhoi hyny a feddai, sef dau swllt, o'r neilldu at y dyben. Y cyfaill a ddywedai, nad oedd neb yn dysgwyl dim ganddi hi; ac os mynai hi roddi dim, fod dau swllt yn llawer gormod; a cheisiodd ei darbwyllo i'w cadw at ei hanghen ei hunan, gan ddywedyd wrthi, fod yn ddigon rhaid iddi wrthynt. "Na," ebe hithau, gyda phenderfyniad meddwl, a chyda deigr yn ei llygad, "y mae yn rhaid i mi gael eu rhoddi; mi a'u neillduais hwy i'r dyben, ac weithian nid myfi a'u pia; ac er nad oes genyf ddim bwyd yn y tŷ, mi a'u rhoddaf o'm calon."

Pan oedd yr un cyfaill, yn yr un adeg, yn myned ar hyd un o heolydd y dref, clywodd guro ar ffenestr rhyw dŷ oddifewn, wrth iddo basio; troes ei ben, ond nid arosodd, gan feddwl mai rhyw swn damweiniol a glywsai. Gydag iddo gychwyn yn mlaen, dyma forwynig y tŷ yn galw arno, ac yn ei wahodd i mewn at ei meistres. Pan ddaeth i mewn, gofynai y wraig foneddig iddo, a oedd ef yn dwyn perthynas â'r capel Cymraeg? neu a oedd ef yn gydnabyddus â'r hen wraig a gadwai dŷ y capel? Atebodd yntau ei fod. Ar hyn adroddodd y wraig foneddig wrtho, ei bod wedi breuddwydio fwy nag unwaith, fod yr hen Susan yn dyoddef gan eisieu bwyd, a'i bod oddiar anesmwythder meddwl oherwydd y breuddwyd, wedi anfon i'r hen wraig fasgedaid llawn o angenrheidiau bywyd. Nid oedd y wraig foneddig ar y pryd yn gwybod nemawr o hanes Susan, heblaw a wyddid yn y dref yn gyffredinol, ac nid oedd erioed wedi cael ymddyddan personol â hi. Defnyddiodd y cyfaill yr adeg i roddi iddi fwy o'i hanes;—pa mor ddefnyddiol ac ymroddgar a fuasai yn ei thymhor i gynal a dwyn yn mlaen achos y Cyfryngwr;—pa mor nodedig y cyfrifid hi mewn duwioldeb;—ac hefyd, pa mor isel oedd ei hamgylchiadau presenol, a hithau yn hen a diswcr. Ac wedi boddloni y wraig foneddig yn y modd yma, ac wedi ateb ei gofyniadau, efe a aeth ymaith.

Mae yr hanes hefyd yn datgan, fod y wraig foneddig wedi canfod y cyfaill crybwylledig gyda Susan, yn ei breuddwyd, ac mai oddiar yr argraff a wnaethai y breuddwyd ar ei meddwl, yr adnabu hi ei wyneb pan yn pasio y fenestr, ac y galwodd hi ar ei ol. Aeth y cyfaill yn lled ebrwydd ar ol yr