Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddyddan uchod at Susan, a hi a ddangosodd iddo y fasged a'i chynwys; ac ni allai attal y deigryn gloyw rhag britho ei llygad, a gwlychu ei grudd llwyd, pan y dywedai wrth ei chyfaill, "A welwch chwi, ffrind, pa fath ffrwyth a ddaeth oddiar ddau swllt y casgliad ?"

Ni wyddai hi ar y pryd ddim pwy a anfonasai y lluniaeth iddi, gan i'r wraig foneddig warafun datguddio enw y rhoddydd. Yn fuan ar ol hyny, anfonodd y wraig foneddig am Susan i ddyfod ati, a chafodd y fath foddlonrwydd yn ei diniweidrwydd a'i symledd crefyddol, a'r fath brofion o'i gwybodaeth am drefn iachawdwriaeth, ac o'i chariad at y Cyfryngwr, ag a barodd iddi benderfynu yn y fan, na chai fod dim eisieu angenrheidiau bywyd ar y fath un mwy; o leiaf, tra y byddai hi byw. Trefnodd iddi, gan hyny, ryw ddogn penodol tuag at ei chynaliaeth, tra y bu Susan byw; a gadawodd hefyd yn ei lythyr cymun ryw swm o arian tuag at y capel Cymraeg, o barch i goffadwriaeth yr hen chwaer dduwiol.

Yr oedd ysbryd rhagorol yr hen grefyddwyr yn cuddio llawer o'u gwaeleddau. Gwaeleddau, yn ddiau, a berthynai iddynt hwythau, ac nid ydym am eu gwadu, a llai fyth eu cyfiawnhau. Gwyddom fod gwybodaeth llawer un o honynt yn fyr iawn, ac eto yn lled hunan-dybus, fel y bydd yr anwybodus yn gyffredin. Fe'u ceid weithiau yn sefyll yn dyn iawn dros beth nad oedd na da na drwg ynddo ei hun; safent weithiau yn gryf iawn dros hen arferiad diles, yn unig am ei fod yn hen; ac nid yn wastad y medrent wahaniaethu rhwng mympwy ffol, a gwirionedd pwysig. Rhy dueddol hefyd weithiau a fyddai rhai i fod yn eiddigeddus tuag at ddynion ieuainc o gyneddfau cryfion, a doniau helaeth, rhag eu cymylu eu hunain trwy ragoriaethau rhai eraill. Ond er addef hyn oll, y mae yn rhaid cydnabod mai anfynych y cyfarfyddid yn eu plith â dynion bryntion, o egwyddorion pwdr; ac anaml hefyd y dygwyddai gwaeleddau yn codi oddiar anwybodaeth a phlentynrwydd, nad oeddynt yn cael eu cuddio gan ardderchogrwydd eu hysbryd. Gwelid, ar yr un pryd, fod eu hamcan yn gywir, eu purdeb yn ddilychwyn, a'u heiddigedd dros ogoniant Duw yn ddiachwyn arno.

Mi a adwaenwn ddau frawd tra rhagorol eu hysbryd, a thra defnyddiol yn eu tymhor, ond nid mor helaeth a dwfn eu hamgyffredion a rhai o'u brodyr. Dygwyddodd unwaith mewn cyfarfod eglwysig, i'r ymddyddan droi ar etholedigaeth. Ac wrth i un o honynt siarad am dani, galwai hi yn etholedigaeth dragwyddol. Codai y llall i fyny, gan ddweyd yn araf, eto yn gryf, mai nid priodol, yn ol ei feddwl ef, oedd ei dynodi yn etholedigaeth dragwyddol. "Tragwyddol ydyw yn sicr," ebe y llall gyda mwy o boethder. "Nage, nage," ebe y cyntaf gyda phwyslais hyderus, "etholedigaeth ydyw er cyn seiliad y byd, oblegid felly y dywed yr ysgrythyr." Yr oedd y brodyr hyn yn rhy dduwiol i gweryla, ond yn rhy blentynaidd i weled mai ymadroddion cyfystyr oedd "tragwyddol" y naill, a "chyn seiliad y byd" y llall.

Yr oedd dau hen fachgen hynod yn eu hoes, yn Llanuwchllyn, sir Feirionydd, o'r enw Thomas Foulk ac Edward Rowland. Yr oedd y ddau yn cydlafurio yn egniol gyda'r achos, wedi dechreu proffesu tua'r un amser, a'r