Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau wedi dangos ysbryd rhagorol mewn llafur a ffyddlondeb o blaid efengyl Mab Duw. Yr oedd yr olaf a enwyd yn gogwyddo yn o gryf tuag uch-Galfiniaeth, a ffydd oedd pob peth ganddo ymron. Yr oedd y llall yn ymofyn cryn lawer am ffrwythau ffydd, a thraethai lawer ar yr angenrheidrwydd o ufydd-dod cyson i orchymynion Duw. Dygwyddodd i Thomas Foulk gael ei gymeryd yn glaf iawn, ac yn ol yr argoelion a ymddangosai arno, nid yn mhell oddiwrth angau. Daeth Edward Rowland i edrych am dano; ac ar ei ddychweliad yn ol, efe a gyfarfu â brawd arall yn myned. tua'r Ddol-bach, y tŷ yr oedd y claf yn byw ynddo; ac ebe y brawd wrth Edward:

"A fuost ti yn y Ddol-bach ?"

"Do," ebe Edward.

"A oes tebyg i wella ar Twm Foulk?"

"O nac oes," ebe Edward.

"A ofynaist ti ddim iddo sut yr oedd hi ar ei feddwl?"

"Do, do," ebe y llall yn bur drist, a chyda chryn bryder, "ac nis gwn pa beth i feddwl o hono;-y mae o yn Armin ofnadwy, dyn a'i helpo;—y mae yn weithredoedd i gyd. Y mae yn arw gen' i ei fod yn parhau felly yn min marw."

Dychwelodd Edward i'w le, ac aeth y dysgybl arall yn mlaen i edrych am y claf; ac wedi cyfarch eu gilydd, a chael ychydig ymddyddan, gofynai y claf i'w gyfaill,

"A welaist ti Ned Rolant (oblegid felly y gelwid ef fynychaf) yn dy gyfarfod, dywed?"

"Do," ebe yntau.

"A fyddi di ddim yn gwneyd cydwybod weithiau," meddai y claf, "i'w rybuddio yn nghylch ei olygiadau? Fe ymddengys i mi ar lwybr peryglus iawn."

"Pa berygl, Thomas, a weli yn ei lwybr?"

"Wel, y mae yn ddyn antinomaidd a phenrydd: druan oedd o: y mae o yn ffydd i gyd.. Chwi gewch, mae arna'i ofn, lawer o boen oddiwrtho."

Y gwir wedi y cwbl ydoedd, nad oedd y ddau frawd hyn yn deall eu gilydd. Nid oedd y naill yn Arminaidd, na'r llall yn antinomaidd. Nid oedd un, wrth osod pwys mawr ar ffydd yn Nghrist, yn meddwl nad oedd i weithredoedd eu lle pwysig eu hunain ac nid oedd y llall chwaith, wrth ymofyn yn ddyfal am rodiad gweddus, ac ymddygiad addas i'r efengyl, yn meddwl disodli ffydd o'i lle a'i swydd priodol hithau.

Yr ydoedd llawer o fwg yn gystal a thân ar ddechreuad Methodistiaeth. Defnyddid ymadroddion na fyddent yn gymeradwy yn ein hoes ni, ac arferid dull o dderbyn aelodau eglwysig, ac o ddiarddel rhai eraill, na fyddai yn gynllun cymhwys i'w ddylyn dan amgylchiadau hollol wahanol. Yr oedd rhyw dywalltiadau grymus iawn yn cael eu rhoddi weithiau—yn aml, yn wir—mewn cyfarfodydd gweddio, pryd na fyddai y doniau ond bychain, ac y defnyddid rhai ymadroddion plentynaidd, neu ynte, lled ganolig