eu gweddusrwydd. Rhwng Bala a Bettws-y-Coed y gorwedd dau gwm, Cwm-tir-mynach a Chwm-penaner. Rhwng y ddau y mae mynydd a elwir Cadair-benllyn, ac yn mhen uchaf y cwm cyntaf a enwyd, y mae tyddyn o'r enw Defaid-tŷ, yr hwn sydd tua brig y cwm, ac yn terfynu ar y mynydd. Wedi i rai brodyr fod yn Ysbytty y boreu Sabboth, yn cadw cyfarfod gweddio, a chael llewyrchiadau hyfryd arno, daethant tua'r hwyr i Dy'n-ybont yn Nghwm-tir-mynach i gynal cyfarfod cyffelyb. Ar ei weddi, meddai un Robert Siôn, Plas-drain, "Arglwydd, dyro i ni dy gael di yma heno, fel y cawsom di yn Ysbytty y boreu. —Arglwydd, llanw y cwm yma â'r efengyl, o hyd at y Defaid-tŷ."—Ar hyn, gwaeddodd Thomas, Ty'n-y-bont, "Ow, Robin bach, dros Gadair-benllyn i Gwm-penaner hefyd!"
Ysbryd rhagorol yr hen grefyddwyr oedd eu gogoniant. Diau fod mwy o wybodaeth a threfnusrwydd yn awr, er nad oes genym eto le i ymffrostio, nag oedd gynt; ond nid oes lle i gredu fod y fath naws wresog, ymroddgar, a gwyliadwrus, ar ysbrydoedd y crefyddwyr diweddaf, ag oedd ar y rhai cyntaf. Yr oedd rhai o'r Methodistiaid cyntefig yn cael y fath fwynhad mewn ymddyddanion â'u gilydd y dyddiau hyny, ac mewn moddion cyhoedd a dirgel, ag oedd yn llawn cymaint ag a fedrent hwy ei gynwys a'i ddal, Ac odditan ddylanwad y teimladau cryfion hyny, dygwyddai rhai amgylchiadau lled ddigrifol; ac ymddygent ar dro fel rhai heb fod yn hollol feddiannu eu hunain.
Mewn cyfarfod gweddio yn y Tai-draw, gerllaw y Bala, yr oedd y brodyr wedi profi hyfrydwch rhyfeddol; ac ar ol ei derfynu, gelwid ar rai o honynt, ag oedd iddynt ffordd lled bell i fyned adref, i eistedd gronyn, a chymeryd ychydig luniaeth cyn cychwyn. Yn mysg eraill, yr oedd yno ddau hen Gristion gwych o'r Bala, sef Richard Owen, a Roger Edward, taid y Parch. Roger Edwards o'r Wyddgrug. Yr oedd naws hyfryd y cyfarfod yn aros ar eu meddyliau, a disgynodd yr ymddyddan eilwaith ar werth duwioldeb, ac ar ogoniant y nef. Ar ganol yr ymddyddan, galwyd ar Richard Owen i gymeryd tamaid o fara a chaws. Yntau a gymerth y cosyn yn lle y dorth, gan ddechreu taenu ymenyn arno, gyda phob difrifwch, heb feddwl yn ddiau beth oedd yn ei wneyd. Galwai rhyw un arno, "Ow, Richard bach, y mae yn fyd braf arnoch chwi, ni a welwn;-y mae yn llifeirio arnoch o laeth a mêl." Gyda hyn, deallodd ei gamsyniad.
Yr oedd ef a Roger Edward dro arall yn dychwelyd adref o Wern-feistrol, lle yr oeddynt wedi bod yn cynal cyfarfod gweddio. Rhoddodd gŵr y tŷ iddynt fenthyg ceffyl i fyned adref tua'r Bala. Hwythau a gychwynasant, gan ymddyddan yn ddifyrus â'u gilydd yn nghylch trysorau yr efengyl, a gadael i'r anifail gerdded gan bwyll lle y mynai. Dealled y darllenydd mai nos ydoedd; ond yr oedd y ffordd yn ddigon adnabyddus i'r ddau. Wedi teithio rhyw gymaint yn y modd yma yn llawn o destyn yr ymddyddan, codasant eu golwg i ymofyn pa le yr oeddynt. Ond rhwng tywyllwch y nos, a syfrdandod eu meddyliau, ni allent gael allan i ba le y dygasai yr hen geffyl hwy; eithr deallasant yn mhen enyd cu bod yn dynesu at ryw anedd