Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy weled goleuni. Gadawsant yr arweiniad i'r anifail, am y barnent y gwyddai efe y ffordd yn well na hwy. Dygwyd hwy at y tŷ yn ddiogel, ac wedi cael clust y preswylwyr, gofynasant iddynt, a wnaent hwy weled bod yn dda ddweyd, A oeddynt hwy ar yr iawn ffordd i'r Bala? Erbyn i bobl y tŷ ddyfod allan a goleuni ganddynt, deallasant pwy oedd yno a phwy oedd yno hefyd? ond y ddau ŵr ag oeddynt ychydig cyn hyny wedi myned oddiyno. Deallasai yr hen geffyl nad oedd ei farchogion yn gofalu fawr am ei ben, a bod iddo ryddid i fyned lle y mynai; am hyny, rhoes dro o amgylch, ar hyd ffordd gynefin iddo, a dychwelyd yn synwyrol yn ol i'w gartref. Mawr oedd eu syndod erbyn hyn, eu bod wedi dyrysu cymaint nes colli y ffordd ag oedd mor gynefin iddynt. Bu hyn yn foddion i ddwyn eu meddyliau i'w hagwedd arferol, a daethant adref yn ddirwystr.

Yn y tymhor yr oedd moddion gras yn brin yn y wlad, a gair yr Arglwydd yn werthfawr, yr ydym yn cael rhyw hynodrwydd ar y modd yr argyhoeddid llawer un; ac yn yr amser yr oedd proffeswyr yn ychydig eu rhif, ac yn fawr eu gwaradwydd, yr oedd hynodrwydd cyfatebol yn ymddangos yn eu hysbrydoedd. Fe ddyry hanesion y cyfnodau tywyll ac amddifaid hyny le i ni gasglu fod hynodrwydd troedigaethau dynion yn cyfateb i brinder moddion. Os oedd y moddion yn brin ac anaml, yr oeddynt hefyd yn rymus ac effeithiol. Fel yr amlheid eu rhifedi, y lliniarid eu heffeithioldeb. Felly hefyd am y proffeswyr, yr oedd eu hysbryd yn cyfateb i'w hamgylchiadau. Nid oedd ond ychydig o honynt, ond yr oeddynt o ysbryd rhagorol. Yr oeddynt dan waradwydd ac erlid; ond yr oedd cysonedd eu proffes, a gradd eu llawenydd, yn cyfateb i'r ymosodiadau a fyddai arnynt.

Un o'r cyfryw oedd Robert Llwyd, Rhuthin, sir Ddinbych. Pan oedd ef yn fachgen, nid oedd nemawr o bregethu yn Rhuthin, nac am rai blynyddoedd ar ol iddo ef gael blas ar wrando yr efengyl. Yr oedd wedi cael ychydig o ysgol yn ei ieuenctyd, fel ag i fedru darllen Saesonaeg. Ryw Sabboth yn yr ardd, dygwyddodd iddo, wrth ddarllen ei Feibl, ddisgyn ar yr adnod, "Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn." Gafaelodd y gair hwn yn ei feddwl yn ddwfn a pharhaus, er nad oedd ef ar y pryd ond deuddeg oed. Mor ddirfawr ydoedd trallod ei feddwl, fel na allai na bwyta na chysgu. Nid oes hanes ei fod wedi cael dim addysgiadau blaenorol gan ei rieni, nac wedi gwneyd sylw o ddim a glywsai yn llan y plwyf; ond er lleied a fuasai ei fanteision blaenorol, yr oedd bellach megys ar unwaith wedi ei ddeffro o ddifrif am ei gyflwr gerbron Duw. Y Sabboth canlynol, efe a aeth i'r fynwent i edrych ar y chwareuon a ddygid yn mlaen yno bob Sabboth, (oblegid edrychid ar y chwareu yn y fynwent mor hanfodol i grefydd y llan, ag oedd y gwasanaeth oddifewn), er mwyn ymysgwyd, os oedd modd, oddiwrth y terfysg a lanwai ei fynwes, a boddi swn taranllyd y geiriau a ddarllenasai. Ond ni fedrai; yr oedd y saeth yn gwaedu ei galon, a'i enaid yntau yn dyheu am ymwared; ond hyd yma yn methu gweled un. Yn mhen rhyw gymaint, tarawodd wrth hen ŵr o'r enw Jacob, yr hwn a arferai