Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrando ar y "penau cryniaid." Nid oedd dim pregethu y pryd hyny yn nes i Ruthin na'r Bont-uchel, yr hon oedd ardal neillduedig, yn nghanol bryniau, tua thair neu bedair milldir o dref Rhuthin. I'r bont yr arferai Jacob fyned, a hysbysodd hyny i'r bachgenyn trallodedig, gan ei wahodd i fyned gydag ef yno y Sabboth canlynol.

Pan ddaeth y Sabboth, cyfeiriodd yr hen Jacob yno, a Robert ieuanc gydag ef. Pregethodd y gŵr dyeithr ar y gair, "Yr Hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?" Rhuf. viii, 32. Yr oedd amlygiadau o gariad a daioni Duw yn traddodi ei Fab dros bechaduriaid euog, yn effeithio yn rhyfeddol ar feddwl y llanc, ac fel olew a gwin yn ei friwiau. Parhaodd Robert Llwyd, gyda chyfaill neu ddau arall, i fyned i'r Bont-uchel yn gyson o hyny hyd nes y caed pregethu i Ruthin.[1] Ac nid ychydig oedd y rhwystrau a'i cyfarfyddai. Yr oedd meistr gwaith Robert Llwyd yn anfoddlawn iawn iddo fyned i wrando y Methodistiaid. Crydd ydoedd o ran ei grefft, ac yn ddyn bydol ei ysbryd, ac ar y cyfan yn lled hoff o Robert Llwyd, o herwydd ei ddyfalwch cyson gyda'i orchwyl, ac felly yn rhagori llawer ar eraill o'i gydweithwyr. Yr oedd crefyddwyr y Bont y pryd hwnw yn cynal eu cyfarfodydd eglwysig ganol dydd. Cymerai ei feistr fantais oddiar hyn i'w rwystro i fyned iddynt, nid trwy nacâu iddo fyned yn llwyr a hollol, ond trwy osod iddo gyfran o waith, i'w orphen yn ystod y dydd hwnw, na allai ei gyflawni heb gael y diwrnod yn gyfan ato, sef gwneuthur pâr o esgidiau. Penderfynai Robert Llwyd yr ochr arall, na chollai ef y cyfarfod eglwysig, ac na chollai ei feistr y gwaith. Am hyny, codai un neu ddau o'r gloch y bore, a gweithiai yn galed er mwyn gorphen y dogn gwaith a osodasid iddo, cyn amser y cyfarfod. Felly cadwai ei feistr yn ddiddig, a mwynhâai yntau y moddion eglwysig.

Ond wedi gorchfygu yr anhawsder hwn, cyfarfu un arall ag ef. Yr oedd ei fam, yr hon oedd yn weddw, yn teimlo yn eiddigeddus yn ei achos, am fod ei hunig blentyn wedi cymeryd yn ei ben i ymuno â'r haid felldigedig, fel y galwai hi y Methodistiaid; a llawer dyfais a ddefnyddiai i'w rwystro i fyned atynt. Ar ddiwrnod y cyfarfod eglwysig, wedi bod yn gweithio er un o'r gloch y bore, i gadw ei feistr yn ddiddig, a dychwelyd adref i fyned i'r Bont, cai fod ei het a'i gôt wedi eu cuddio; a llawer gwaith y bu raid iddo fyned i'r cyfarfodydd eglwysig hyny, heb ddim am ei ben ond cap papyr, yr hwn a arferai ei wisgo wrth ei waith, ac yn llewys ei grys; neu beidio myned iddynt oll. Ac yn lle ymwylltio ac ymddigio yn ngwyneb ymddygiad mor atgas, dyoddefai y cwbl mewn ysbryd hynaws a thirion, gan dywallt ei enaid mewn gweddiau taerion dros y weddw, am iddi hithau hefyd gael bod yn gyfranog o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist; a llwyddodd, o'r diwedd, trwy fwyneidd-dra ei ysbryd, a chysonedd ei rodiad, i'w hennill, o leiaf i'w gefnogi yn hytrach na'i rwystro.

  1. Gwel hanes sir Ddinbych yn mlaen.