Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dra atgas a chwerw i uchafiaid trahaus yr eglwys Rufeinig. Eto, felly y bu. Parhaodd Wickliff i ledaenu ei egwyddorion, a lefeiniwyd Lloegr â syniadau tra gwrthwyneb i'r eiddo anghrist.

Cyfieithodd Wickliff y Beibl o'r Lladin i'r Saesonaeg,—gwaith a ddylai beri fod ei enw yn anwyl gan bob Cristion. Ond yn lle diolchgarwch am y gwaith mawr hwn, cyfarfu â gwrthwynebiad. Ysgrifenwyd yn erbyn y cyfieithiad; ac ysgrifenwyd yn erbyn hawl y werin i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain. Atebwyd yr ysgrifeniadau hyn gan Dr. Wickliff, gyda medrusrwydd a sel. Syrthiodd y diwygiwr enwog hwn i afiechyd trwm, a thybiwyd fod terfyn ei oes ar ben, yn y fl. 1379. Anfonodd y mynachod cardotaidd (mendicant friars) genadau at y gŵr claf; ac wedi cymeryd arnynt ddymuno iechyd ac adferiad iddo, dygasant i'w gof y niwaid mawr a wnaethai i'w hurdd hwy, trwy ei bregethau a'i lyfrau, a chynghorasant ef, gan fod ei oes, bellach, ar ben, i alaru am, a galw yn ol ei eiriau yn eu herbyn, fel dyn gwir edifeiriol. Ond Wickliff, gan ymadnewyddu, a alwodd ei weision ato, a pharodd ei godi ar y clustogau: yna dywedodd â llais uchel, "NI BYDDAF FARW OND BYW, A DYNOETHAF DDRWG ARFERION Y MYNACHOD." Hwythau, ar hyn, a giliasant ymaith hewn gwarth a chywilydd.

Pan ddaeth Beibl Wickliff allan gyntaf, gwnaeth yr esgobion a'r abadau yr hyn a allent i attal ei ledaeniad, gan ofni, yn ddiau, am obaith eu helw, os cynyddu a wnai gwybodaeth o'r ysgrythyrau; a deisyfasant ar y senedd i lethu Beibl Wickliff; ond ni chaniatawyd iddynt eu cais, a bu eu hawydd hwy i attal ei ledaeniad yn foddion i gyffroi y bobl, o hyny yn fwy, i ymofyn am dano, a'i ddarllen.

Nid rhyfedd i'r penaethiaid pabaidd, gan faint o ddrwg a wnaethai llafur Wickliff i'w hachos hwy, fynu ei gyhoeddi yn nghymanfa Constance, yn heretic cas, a gorchymyn casglu ei esgyrn, os gellid eu gwahaniaethu, a'u bwrw i'r domen. Yn mhen tair blynedd ar ddeg ar ol y ddedfryd, fe wnaed hyny ar orchymyn y pab Martin V: i esgob Lincoln, a chodwyd ei esgyrn ef o'r gwely y gorphwysasent yn heddychol am 44 o flynyddoedd; llosgwyd hwy, a bwriwyd eu lludw i'r afon, yn y fl. 1528.

Yr oedd rhai o'r Cymry yn athrofa Rhydychain yn amser Wickliff, a thrwyddynt hwy dygwyd ei syniadau i blith ein cenedl: dygwyd ei ysgrifeniadau i Bohemia hefyd, gan ŵr boneddig ag oedd yn efrydydd ar y pryd yn Rhydychain; cafodd John Huss olwg arnynt, a chafodd ei argyhoeddi trwyddynt o ŵyrni y syniadau pabaidd. Yr un modd hefyd y cafodd Luther ei aflonyddu, yn mhen can mlynedd wedi hyny, trwy ddarllen pregethau John Huss. Yn mhlith y Cymry, cawn hanes fod un Walter Brute, yr hwn oedd yn ŵr cyfrifol a dysgedig, wedi ei oleuo trwy lyfrau Wickliff, i adnabod gradd o athrawiaeth yr efengyl; ac wedi ei ddychwelyd at Dduw, nes ei wneuthur yn offeryn i addysgu lluaws o wreng a boneddig, yn mhlith y genedl, yn y pethau a berthynent i'w heddwch. Rhoddwyd achwynion yn ei erbyn ef gan ei wrthwynebwyr, wrth archesgob Caergaint, ac esgob Henffordd; a gwysiwyd ef i gael ei holi. Dygwyd tystion lawer yn ei erbyn,