PENNOD XIII.
CYNYDD METHODISTIAETH YN PERI NEILLDUAD GWEINIDOGION.
CYNWYSIAD:—
YR ANGEN AM WEINYDDIAD BEDYDD A SWPER YR ARGLWYDD—Y PWNC YN CAEL EI DRAFOD-DYLANWAD YR OFFEIRIAID—TYSTIOLAETH MR. JONES O DDINBYCH—TYSTIOLAETH MR. MORGAN, SYSTON—METHODISTIAETH AC EGLWYSYDDIAETH YN ANGHYSON—AMGYLCHIADAU GWAHANOL DE A GOGLEDD—YSGOGIADAU CYCHWYNOL YN SIROEDD ABERTEIFI A PHENFRO—YMDRECH I GAEL Y SACRAMENTAU I GAERFYRDDIN, LLANWINIO, TYDDEWI, AC ABERGWAUN—HANESYN AM DANIEL ROWLANDS.
EFFAITH arall a ddylynodd gynydd y Methodistiaid, oedd neillduo brodyr o'u plith eu hunain i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd. Ystyrid hwn yn gam pwysig yn hanes y cyfundeb, ac y mae yn un o gofnodau hynotaf ei ysgogiad. Yr oedd mwy na deng mlynedd a thriugain wedi myned heibio ar Fethodistiaeth cyn i hyn gymeryd lle; ac am yr ysbaid hwnw, yr oeddid yn dibynu yn gwbl am weinyddiad o'r ordinhadau arwyddol ar y nifer hyny o weinidogion yr eglwys sefydledig a ymunasent â'r cyfundeb. Ar y dechreu, yr oedd nifer y rhai a elwid yn offeiriaid, y rhai a dderbyniasent urddau esgobawl, yn ddigon i ddiwallu angenion y cyfundeb, gan eu bod yn ddynion ymdrechgar a llafurus, ac yn ymweled yn eu tro â phob rhan o'r wlad. A thros lawer o flynyddoedd, ni theimlid un math o anniddigrwydd i'r drefn hon. Ond pan ddechreuodd y cyfundeb luosogi, fel y gwnaeth yn ddirfawr tua dechreuad y ganrif hon, fe deimlid fod nifer yr eglwyswyr urddedig yn y corff yn llawer rhy fychan, i gyfarfod âg amgylchiadau yr eglwysi. Gorfyddid yn fynych iawn i rieni gymeryd eu plant at weinidog y plwyf, neu at weinidog ymneillduol, i gael eu bedyddio; a phan y daeth hyn i ddygwydd yn bur fynych, codai anniddigrwydd yn mysg yr aelodau, a dechreuent chwilio a oedd yn rhaid i'r ansawdd yma ar bethau barhau neu beidio? A chan na cheid un rheswm cryf a ennillai gydwybodau dynion call a meddylgar, mai fel hyn y dylai pethau barhau, cryfhaodd yr anniddigrwydd a'r anesmwythder fwy-fwy. Bellach, ymddyddanai y naill bregethwr â phregethwr arall, a'r naill henuriad â'r llall ar y mater, ac effaith yr ymddyddanion fyddai cryfhau y farn, fod rhyw gyfnewidiad yn angenrheidiol.
Yr oedd, bellach, luaws mawr o bregethwyr grymus a bendithiol yn y ddwy dalaeth, y rhai yr edrychid arnynt gan yr eglwysi yn ddynion cymaint eu gras, eu dawn, a'u defnyddioldeb, a neb yn y cyfundeb; ac ar yr un pryd, edrychid arnynt yn anghymhwys i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, gan eu bod heb urddau esgobawl. Nid oeddynt hwythau yn teimlo yn rhydd i wneuthur hyny, rhag peri annhrefn a dyryswch yn y corff; o leiaf, ni fynent anturio at y gwaith, oddieithr eu galw yn rheolaidd i hyny gan eu brodyr; neu eu gorfodi, megys, i wneuthur hyny, gan rym amgylchiadau. Nid oedd ond dau glerigwr wedi ymuno â'r Methodistiaid trwy holl Wynedd i gyd am lawer o flynyddoedd; ac wedi i Mr. Lloyd, Caernarfon, ymuno