Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/456

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac i'w huwchraddiaid eglwysig ar yr un pryd: ond cawsant brofion wrth arfer cydwybod i Dduw yn y gwaith y llafurient ynddo, na allent ddysgwyl amgen na llythyr ysgar oddiwrth yr eglwys wladol. Rhaid a fu, fel y gwelsom, i'r pregethwyr addef eu hunain yn ymneillduwyr, cyn yr edrychai y gyfraith arnynt yn foddhaol. Fel deiliaid yr eglwys wladol, ni roddid trwyddedi iddynt. Nid oedd cyfraith y tir yn adnabod neb ond cydffurfwyr cyson, neu ymneillduwyr gonest. Nid cydffurfwyr oedd y Methodistiaid, onide paham yr oedd yn rhaid wrth drwyddedi y gyfraith? ac os oedd raid wrth ei thrwyddedi, yr oedd yn rhaid eu derbyn fel ymneillduwyr. Nid oedd cyfraith y wlad, mwy na chyfraith yr eglwys, yn caniatâu undeb ag eglwys Loegr ond ar dir cydffurfiaeth â'i chanonau, ac ymostyngiad i'w hawdurdodau. Ac ni chaniatäai y llys gwladol drwyddedu y pregethwyr, na chofrestru lleoedd i bregethu ynddynt, ond ar dir ymneillduaeth. Mynai rhai o'r hen bobl, yn y gwrthwyneb, gael bod mewn rhyw fath o undeb ag eglwys Loegr, heb gydymffurfiad; a mynent o'r ochr arall gael nodded y gyfraith drostynt mewn anghydffurfiaeth, heb gymeryd yr enw ymneillduwyr; ond hyn ni chaniateid iddynt. Os undeb ag eglwys y wlad, rhaid oedd cydffurfio; os anghydffurfio, rhaid oedd ymneillduo. Ac felly y bu. Nid oedd bosibl, meddai y gydwybod, a chydffurfio â chanonau yr eglwys, a gorchymyn yr esgob; "nid oes bosibl, ynte," meddai y gyfraith, "cael fy amddiffyn i drosoch, tra y byddoch yn proffesu eich hunain yn ddeiliaid yr eglwys, ac yn croesi ei rheolau. Nid wyf yn gwrthod i chwi nodded, os ydych wedi blino ar osodiadau yr eglwys, ac yn dewis ei gadael; ond ei gadael hi fydd raid, os mynwch i mi eich amddiffyn mewn anghydffurfiaeth." Y cyfryw oedd iaith y gyfraith; a'i llef hi, a llefau clerigwyr, a orfuant.

Yr oedd gwedd wahanol ar bethau yn y Deheubarth yn yr achos hwn, wrth yr hyn oedd yn y Gogledd. Nid fod neb ond yr offeiriaid neu y clerigwyr yn gweinyddu y sacramentau yn y Gogledd mwy nag yn y Deheudir. Yn hyn yr oedd De a Gogledd yn gyffelyb; eto, mewn pethau eraill, yr oedd yn dra gwahanol. Yn y Deheubarth, ni weinyddid y sacramentau gan yr offeiriaid eu hunain, ond mewn ychydig o fanau trwy yr holl wledydd. Cyfyngid hyn nid yn unig i ychydig o bersonau, ond hefyd i ychydig o leoedd; eithr nid oedd felly yn y Gogledd. Gweinyddid yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd yn Ngwynedd, yn mhob man yn ddiwahaniaeth, o ran un gwrthwynebiad i'r naill le mwy nag i'r llall. Mae yn wir i'r Bala fod am lawer o flynyddoedd yn lle cymundeb i'r holl gymydogaethau cylchynol; eto nid oedd hyn yn codi ond oddiar amgylchiadau neillduol, ac yn anad dim, oddiar yr anmhosiblrwydd oedd i bob lle bychan, ar ei ben ei hun, gael y cymun, pryd nad oedd ond tri offeiriad yn holl Wynedd i'w weinyddu; am hyny, ac nid am ddim arall, yr etifeddai y Bala y fraint hon. Ac yn mhob man arall trwy siroedd y Gogledd, nid felly yr oedd. Pan ddeuai y gŵr cymhwys heibio, fe weinyddai yr ordinhadau o fedydd neu swper yr Arglwydd, yn ddiwahaniaeth yn mhob capel fel ei gilydd.

Yn y Deheudir yr oedd yn wahanol. Ni fu gweinyddu swper yr Arglwydd