drechiadau. Yr oeddynt yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd, a gras mawr oedd arnynt oll. Ac wrth gofio pa beth a wnaed ar ddydd y Pentecost, a'r dyddiau canlynol, yn Jerusalem, pan y lluosogodd y dysgyblion i bum mil o eneidiau, pa beth sydd na allwn ni ei gredu? a pha beth sydd na allwn ni eto ei ddysgwyl? Ac er i Cradoc a Wroth weled dyddiau blin ar wir grefydd yn eu hoes, eto cymerwyd hwy ymaith i orphwysdra cyn yr ystorm fawr ag oedd yn ymgasglu uwchben yr anghydffurfwyr cydwybodol yn nyddiau Charles II.
Mae awdwyr yn gyffredin yn cytuno yn eu tystiolaeth am Oliver Cromwell, pa faint bynag a allai fod ei awydd am awdurdod, ei fod yn ŵr o fuchedd diachwyn arno, yn noddwr haelfrydig i gelfyddyd a chrefydd; ei fod yn ymarfer ag addoli Duw yn ddirgel a chyhoeddus, yn sefyll dros y ffydd Brotestanaidd, ac yn amddiffynwr cadarn a chyson i ryddid cydwybod. Meddai un ysgrifenydd am dano: "Nid yw y gwasanaeth a wnaeth i'w wlad, ac i grefydd, ddim yn guddiedig; a pha fodd bynag y bernir am ei ddybenion, nid ychydig a dibwys a fu y gwasanaeth hwnw. Hyd y diwedd, parhaodd ei ymarweddiad fel dyn yn ddiargyhoedd; daliodd i fyny ei barch i grefydd. ac i grefyddwyr; ac efe a fu farw gan weddio, mewn modd ag a weddai i Gristion ac amddiffynwr y deyrnas."
Pa faint bynag o wawdio sydd wedi bod ar oes Cromwell gan ddirmygwyr anffyddaidd, y mae amgylchiadau lawer ar gael, yn profi fod sefyllfa pethau y pryd hyny yn well nag y dychymyga llawer, a bod ffyniant rhyfeddol ar wybodaeth ysgrythyrol, a gwir grefydd. a gwir grefydd. Yn y tymhor hwn y gosodwyd deddfau ar fod dydd yr Arglwydd yn cael ei gadw; fod chwareudai yn cael eu cau, a chwareuon llygredig yn cael eu gwarafun. Rhoddwyd lledaeniad anarferol i'r ysgrythyrau; a gwnaed ymdrech canmoladwy i ledaenu Cristionogaeth bur yn Nghymru, Iwerddon, ac yn mysg Indiaid America. Cyhoeddwyd, yn y tymhor hwn, luaws mawr iawn o lyfrau yn cynwys athrawiaeth iachus. Dr. Owen oedd benaeth y brifysgol yn Rhydychain; a'r anfarwol Milton, awdwr "Coll Gwynfa," oedd ysgrifenydd Cromwell ei hun. Yn yr adeg hon yr ymddangosai ac y llafuriai Drd. Goodwin, Owen, Manton, a Bates, a Mri. Flavel, Charnock, Poole, Howe, a Baxter,—gwŷr na ragorwyd arnynt erioed o ran eu talentau a'u gras, a gwŷr ag y mae eu hysgrifeniadau yn aros hyd heddyw yn drysor anmhrisiadwy i eglwys Crist. Ni chawsai Prydain erioed, er pan oedd brenin arni, weinidogaeth mor ffyddlawn ac effro ag oedd ganddi yn yr adeg hon; ac nid oes prawf i'r un genedl arall gael ei chyffelyb. Ond dyddiau Cromwell a rifwyd; a buan ar ol ei farwolaeth, adferwyd y freniniaeth i Charles yr ail; a chyda'r adferiad, ni a gyfarfyddwn ag amserau blinion, tywyll, a dû.
Teimlwn ein meddyliau yn lloni wrth ganfod y fath gychwyniad ar grefydd yn Nghymru;—wrth weled lluosogiad mor fawr ar offerynau cymhwys, mewn amser mor fyr ag un mlynedd ar ddeg;—wrth ddeall fod mwy nag wyth cant o ddynion dan argyhoeddiadau dwysion yn mhlwyf Llanfaches ei hun, lle yr oedd Mr. Wroth a'i gydlafurwyr yn pregethu;—wrth ddarllen