Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/477

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XV.

CANLYNIADAU Y NEILLDUAD.

CYNWYSIAD:—

COLLI CAPELAU, YN LLANDUDOCH, CAPEL EGLWYS-ERW, CAPEL NEFERN, CAPEL TREFDRAETH, CAPEL DINAS, OLL YN SIR BENFRO—YR YMOSODIAD A FU YN LLANON, YN SIR ABERTEIFI—NATHANIEL WILLIAMS YN CILIO—CAIS AT GAEL Y GWRANDAWYR A RHAI O'R PREGETHWYR ODDIWRTH Y CYMUNDEB—YMOSODIAD TRWY Y WASG—Y "WELSH LOOKING GLASS," GAN MR. JONES, CREATON.

OND er i'r neillduad hwn gael ei ddwyn ymlaen trwy ddirgymhelliad amgylchiadau, ac mewn dull pwyllog, wedi trafodaeth hir, ac wedi blynyddau o gydymgyngoriad, eto ni chaed y cyfnewidiad angenrheidiol hwn ymlaen heb rai effeithiau gofidus, er y mae yn rhaid cydnabod eu bod yn llawer llai helaeth a gofidus nag y daroganid y byddent. Dinystr a drylliad y cyfundeb a ragfynegid, ond trwy drugaredd nid fel hyny y bu. Ymadawodd amryw o'r offeiriaid oddiwrthym yn y Deheubarth, fel y crybwyllasom o'r blaen, a chiliasant ymhell oddiwrth y Methodistiaid o ran eu teimlad, gan ymddyosg yn llwyr oddiwrth bob cymdeithas â'u hen frodyr. Ac nid hyny oedd y sarhad i gyd, eithr cymerasant mewn amryw fanau y capelau a gyfodasid, gan haeru fod cyfansoddiad y cyfundeb wedi hollol newid.

Mae yn rhaid i'r darllenydd ddeall fod capelau bychain wedi eu codi mewn amrywiol fanau yn y Deheubarth, fel ysgoldy, yn agos i eglwys y plwyf, lle y byddai yr offeiriaid yn bleidgar i'r Methodistiaid. Yn y cyfryw gapel, neu addoldy, y byddai y cynghorwyr yn arfer pregethu; yno y cynelid cyrddau gweddio, cyfarfodydd eglwysig, ac ysgol Sabbothol, ond ni weinyddid bedydd na swper yr Arglwydd yn y fath le. Adeiladasid y cyfryw gapelau ymron i gyd gan y Methodistiaid, ac iddynt hwy, ac at eu gwasanaeth, yr oeddynt. Yr oedd tŷ cwrdd o'r fath yn Llangeitho, yn Llandudoch, yn Nghastell-nedd, ac yn Llangan. Tybid fod y fath dai cyrddau yn angenrheidiol, gan na oddefid i'r pregethwyr ddringo pulpud y llan heb urddau esgobawl, a chyfleus oeddynt hefyd i gynal amrywiol gyfarfodydd crefyddol, y rhai y buasai fy arglwydd esgob, ond odid, yn wrthwynebol i'w cadw yn eglwys y plwyf. Ond wedi y neillduad a fu ar weinidogion i'r corff, collwyd amryw o'r fath dai cyrddau, yn enwedig yn sir Benfro; ac yn wir cymaint oedd dylanwad yr offeiriaid a giliasant ymaith oddiwrthym, mewn rhai ardaloedd, a'r fath ydoedd syniad eglwysyddol y cynulleidfaoedd, mewn rhai manau, fel ag y collwyd nid y tai cyrddau yn unig, ond y cynulleidfaoedd hefyd.

Gan fod yr amgylchiadau y cyfeiriwn atynt yn ddyeithr i'r rhan amlaf o Gymry yr oes hon, a'r hysbysiad am danynt ymron yn anhygoel gan lawer, teg yw gosod rhai o'r amgylchiadau hyn ger bron; a gwelir ynddynt yr effeithiau a achlysurwyd gan y neillduad crybwylledig ar y sawl a'u gwrthwynebent.

Pentref ydyw Llandudoch am yr afon ag Aberteifi. Fe ddaeth i lan y plwyf weinidog efengylaidd o sir Forganwg, o'r enw W. Jones. Yn fuan wedi dyfodiad y gŵr hwn i Landudoch, y dechreuwyd yno achos bychan gan y Methodistiaid. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig, ac adeiladwyd yma