o'r addoldy. Pa fodd bynag, cafwyd drws agored i fyned iddo ryw Sabboth, a chyhoeddwyd y byddai Mr. W. Williams, Aberteifi, yn pregethu ynddo y Sabboth canlynol. Y Sabboth a ddaeth, a'r pregethwr hefyd; ond pa beth a welai erbyn dyfod at ddrws y capel, ond gwarcheidwad arfog, yn gwarafun iddo ef a phob un arall fyned i mewn. Ar hyn, apeliwyd at berchen y tir y safai y tŷ cwrdd arno, sef T. D. Lloyd, Ysw., Bronwydd, swydd Aberteifi. Yr oedd y boneddwr hwn fel Arlywydd (Lord of the Manor), yn cynal ei lŷs yn Nhrefdraeth; yno, gan hyny, yr aeth amryw o'r cyfeillion i osod yr achos o'i flaen. Nododd yntau ddiwrnod penodol i wrando y cwyn, pryd y daeth tri o frodyr o Abergwaun yno, a daeth o'r ochr wrthwynebol, bedwar o offeiriaid ac amryw eglwyswyr o Eglwys-erw.
Dygasai Mr. Lloyd adysgrif o'r lease gydag ef, a darllenodd hi; a'r ymadrodd ynddi y sylfaenai yr offeiriaid eu hawl arno oedd, mai erthyglau athrawiaethol eglwys Loegr oedd i fod yn safon yr athrawiaeth a bregethid yn y capel; ymadrodd a berthynai gynt i lawer o rwym-ysgrifion y capelau. Swm y ddadl oedd fel hyn:
Offeiriaid. Ni all fod gan y Methodistiaid un hawl i'r tŷ cwrdd, am nad ydynt yn olynwyr i'r gwŷr a'i hadeiladodd, gan na chawsant erioed urddau esgobawl.
Methodistiaid.—Nid ydym, syr, yn proffesu bod yn olynwyr iddynt, ond yr ydym yn hòni, mai nid ni ein hunain oedd yn y lle ar ddydd ei agoriad.
Off. Ond, syr, y mae crybwylliad penodol yn y lease mai erthyglau yr eglwys oedd yr athrawiaeth i fod.
Meth.—Nid yw y lease yn son am ddim ond am erthyglau athrawiaethol yr eglwys; ond nid oes ynddi air am ei llywodraeth eglwysig.
Off.—Yr athrawiaeth uchaf ydyw y cymun bendigaid; ac yn ol yr erthyglau, nid oes gan y Methodistiaid ddim hawl i'w weinyddu.
Meth.—Nid athrawiaeth ydyw ordinhadau ac ymarferiadau eglwys, ac nid ydym ni yn pregethu dim ond sydd gyson ag erthyglau eglwys Loegr, fel protestaniaid uniawngred eraill.
Off.—Y maent hwy wedi ymadael ag egwyddorion eu tadau; mewn gwirionedd, nid oes Methodistiaid yn bod yn awr; -gynt yr oeddynt mewn undeb â'r eglwys, a gwŷr wedi cael urddau esgobawl oedd eu gweinidogion.
Meth.—Ni fu un undeb sylweddol erioed rhyngom ag eglwys Loegr;—nid offeiriad oedd ein sylfaenydd cyntaf,[1] ac os offeiriaid fu yn gweinyddu i ni, rhai wedi eu troi allan oeddynt, gan mwyaf o eglwys Loegr;—ac os ydyw y ffaith o fod clerigwyr yn gweinyddu mewn unrhyw gyfundeb yn ei gysylltu a'r eglwys wladol, yna eglwyswyr ydyw holl ymneillduwyr y deyrnas, gan mai y Bartholomew Act a roes iddynt hanfodiad. Ac heblaw hyn oll, yr oedd yr offeiriaid Methodistaidd wedi tori eu hunain ymaith o gylch yr eglwys wladol, yn ol y nawfed Canon, o'r dydd y cynaliwyd y gymdeithasfa gyntaf ganddynt;-a mwy na'r cwbl, yr offeiriaid ydynt elynion penaf Methodistiaeth drwy holl Gymru.
- ↑ Cyfeiriad at Howel Harris, tybygid.