Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

G'radwydd tost sydd i'r Brutaniaid,
Eu bod mewn crefydd mor ddyeithriaid;
Ac na ŵyr y ganfed ddarllain
Llyfr Duw'n eu hiaith eu hunain.

Er mai Sais oedd Mr. Gouge, eto cafodd ar ei feddwl, wedi ymadael o'r eglwys oherwydd petrusder cydwybod i gydymffurfio, ddyfod i Gymru; ac yma y bu yn teithio, yn pregethu, ac yn cyfranu llawer o arian yn mhlith y werin dlawd ac anwybodus. Ei brif amcan oedd, addysgu y trigolion i ddarllen ac ysgrifenu, ac i ddeall prif bynciau Cristionogaeth. I'r dyben hwn, bu yn offeryn i osod i fyny rhwng 3 a 4 cant o ysgolion yn y trefydd. Trwyddo ef, a Mr. S. Hughes, y cafodd y Cymry argraffiadau newyddion o'r Beibl, y rhai oeddynt, bellach, yn brinion, a'r argraffiadau blaenorol o hono ymron wedi diflanu. Dywedir nad oedd i'w cael, trwy holl Gymru a Lloegr, yn y fl. 1674, dros 30 o Feiblau Cymraeg. Ond yn y fl. 1678, cafwyd argraffiad newydd o hono gan Stephen Hughes, mewn undeb â gwŷr da eraill, a thrwy eu cynorthwy; at yr hyn y cyfranai Mr. Gouge yn helaeth. Cyhoeddwyd hefyd, tua'r un amser, amryw o lyfrau buddiol yn Gymraeg. Yn y modd yma yr oedd goleuni gwybodaeth yn raddol yn ymledaenu, a'r hirnos gaddugol yn raddol yn cilio. Yr oedd y tri moddion a grybwyllwyd yn awr yn cael eu defnyddio; sef, pregethu, dysgu y werin i ddarllen, a chyhoeddi llyfrau. Dywedir fod yn nghylch 60 o lyfrau Cymraeg newyddion, heblaw ad-argraffiadau, wedi dyfod allan o'r wasg yn yr hanner diweddaf o'r canrif hwn.[1]

Ond er mai yn y Dehcudir yr oedd y gwaith da yn blaguro fwyaf yn y tymhor hwn, eto nid oedd Gwynedd ddim heb rai tystion ffyddlon. Yr oedd yma "ychydig enwau" tra nodedig yn eu dydd am eu llafur a'u llwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd.

Un o'r tystion hynod a ragflaenai y diwygiad Methodistaidd yn y Gogledd, oedd y Parch. John Williams, gŵr o sir Gaernarfon, ac a ddygwyd i fyny yn Rhydychain. Dywedir iddo ef, a dau o wŷr ieuainc eraill, ddyfod o'r brif-ysgol i sir Gaernarfon tua'r fl. 1646, neu yn ddiweddarach. Dywedir am Mr. Williams, ei fod yn ŵr hynod mewn dysgeidiaeth a duwioldeb, ac yn dra diwyd i gynyg yr efengyl i bechaduriaid. Ac ni fu ei lafur ddim yn ofer. Duw a fendithiodd ei ymdrechion er llesâd i laweroedd, ac a'i gwnaeth ef yn dad ysbrydol i'r rhan fwyaf, meddynt, o'r dysgyblion ieuainc yn y wlad y dyddiau hyny. Tybir mai gweinidog plwyf Llandwrog ydoedd, ac iddo gael ei droi allan o'i blwyfoliaeth ar ŵyl Bartholemeus, yn y fl. 1662, pryd y daeth Deddf yr Unffurfiad i rym, a phryd y trowyd allan o eglwys Loegr 2000 o'r gweinidogion goreu ag oedd ynddi, am wrthod plygu iddi. Ymddengys fod Mr. Williams yn eu mysg. Cynorthwywyd ef yn ei lafur canmoladwy gan Vavasor Powel, a Morgan Llwyd; ond fe fu ei droad allan o'r llan yn gryn wrthdafliad i'r diwygiad a ddechreuasid trwyddo, ac yn ofid

  1. Gwel Trysorfa Ysbrydol, llyfr ii, tudal. 49.