o ddaioni Duw yn gofalu am dano trwy foddion anadnabyddus ac annysgwyliadwy iddo ef. Cafodd gwraig ceidwad y carchar ei dychwelyd at Dduw trwyddo, tra y bu efe yno, er mor sarug y buasai tuag ato ar y cyntaf.
Trwy diriondeb ac egni ei gyfeillion, cafwyd ef yn rhydd, ac ymroes i bregethu yr efengyl yn y lleoedd tywyllaf yn Nghymru. Cyrchai llawer i wrando arno, a bu ei lafur yn fendithiol i laweroedd. Dyoddefodd lawer o galedi wrth deithio ar bob math o dywydd, a thros barthau mynyddig, ac ar hyd ffyrdd anhygyrch, a chyfarfod â llawer llety tra anghysurus. Yr oedd iddo elynion lawer, y rhai a gynllwynent am adeg i wneuthur niwed iddo; ond Duw a'i cuddiodd dan orchudd ei adenydd. Pan oedd yn pregethu unwaith mewn tŷ, daeth swyddog gwladol i mewn, ac a orchymynodd iddo ef dewi. Mr. Maurice, yn lle ufyddhau, a'i tynghedodd, yn enw y Duw mawr, gair yr hwn a bregethai, i adael llonydd iddo, modd yr atebai am hyny yn nydd mawr y farn. Gyda hyn, syrthiodd arswyd ar y swyddog, a than grynu efe a eisteddodd ac a'i gwrandawodd hyd ddiwedd y bregeth, ac a aeth ymaith.
Bu mewn angen a chyfyngder lawer gwaith. Unwaith pan oedd mewn gweddi gyda'i deulu, yn adrodd ei gyfyngder gerbron Duw, curodd gŵr wrth ei ddrws, a rhoddai iddo swm o arian, llonaid ei law, heb eu rhifo, ac heb hysbysu oddiwrth bwy y deuent. Gwnaeth yr un gŵr yr un fath gymwynas iddo dro arall, pan oedd yn galed arno. Pan ofynwyd iddo gan rai o'i gyfeillion yn sir Gaernarfon, pa fodd yr oedd yn byw, gan y gwyddent am ei sefyllfa isel, "Byw yr wyf," ebe yntau, "ar y 6ed o Matthew." Gofynasant iddo eilwaith yn mhen blynyddau, pa fodd yr oedd y 6ed o Matthew yn troi allan; "O, da iawn," ebe yntau, "i Dduw y byddo y diolch." Bu farw yn 40 mlwydd oed, yn y fl. 1682.
Mae enw Morgan Llwyd o Wynedd yn adnabyddus fel un a fu o wasanaeth i'w genedl yn ei oes, a thrwy y llyfrau a ysgrifenodd i oesoedd dyfodol. Bernir mai mab ydoedd i Hugh Llwyd o Gynfal, yn mhlwyf Maentwrog, yn sir Feirionydd; a bernir hefyd mai trwy weinidogaeth Walter Cradoc y deffrowyd ef am ei achos ysbrydol, pan oedd y gŵr hynod hwnw yn gweinidogaethu yn Ngwrecsam. Gelwid ef gan breswylwyr y Dehcubarth, Morgan Llwyd o Wynedd. Bu yn weinidog yn Ngwrecsam rai blynyddoedd, yn yr amser y trowyd amryw offeiriaid anfucheddol allan o'r llanau; a theithiodd lawer trwy Gymru i bregethu yr efengyl. Bu farw tua'r fl. 1660, a chladdwyd ef yn mynwent yr ymneillduwyr gerllaw Gwrecsam, sef mynwent Rhosddu. Dywed Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, â'r llythyrenau "M. Ll." arni. Gallaf finau dystio yr un peth : cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen ŵr a fyddai arferol o dori beddau yno. Dywedir i ryw ŵr boneddig tra erlidgar, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, frathu ei gleddyf hyd at y carn i'w fedd ef.[1] An-
- ↑ Gwel hanes ychwanegol am y gŵr hwn yn Nrych yr Amseroedd; ac adolygiad ar ei lyfrau yn y Traethodydd, cyf. iv, tudal. 30.