Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghredadwy ymron i ni yn yr oes hon, pan y mae rhyddid crefyddol mor gyflawn a diogel, fod y fath sarhad a cham yn cael ei wneuthur a'i oddef, ar ddynion diniweid—dynion heb un rhith o gyhuddiad yn cael ei osod yn eu herbyn, ond eu bod yn ceisio goleuo eu cydwladwyr yn ngwirioneddau y Beibl. Ac mor anghredadwy a hyny ydyw y gwroldeb a'r ymroad a feddiannai gweision yr Arglwydd, pan y gallent wynebu yn hyderus y peryglon mawrion a'u bygythient, a sefyll eu tir yn ddiysgog gyda gwaith mawr eu Meistr. Rywbryd yn Mhwllheli, mewn cyfarfod o weinidogion, gofynwyd pwy a bregethai? "Myfi a bregethaf," ebe rhyw ŵr ieuanc, yn ddiegwan o ffydd, "os caniatewch i mi." A phan yr oedd yn pregethu, saethodd un o'r erlidwyr fwled ato, yr hon a aeth heibio ei ben i'r pared. Gyda hyn, dywedodd, "Yn nghysgod dy law y'm cuddiwyd;" ac aeth yn mlaen yn galonog hyd ddiwedd y cyfarfod.

Mewn adeg yr oedd moddion gras mor anaml, ni a gawn fod yr Arglwydd megys yn myned allan o'i ffordd gyffredin i gyfarfod â dynion er eu dychwelyd ato ei hun. Rhoddir enghraifft neillduol o hyn yn Nrych yr Amseroedd. Dygwyddodd i ŵr duwiol, yr hwn a elwid weithiau, Edward dduwiol, neu y siopwr duwiol, gael ei ddal yn Mhwllheli ar ddiwrnod marchnad, hyd lawer o'r nos. Wrth fyned adref, canfu, yn ol ei dyb ef, fod y môr wedi llenwi ar ei ffordd, fel na allai fyned adref ar hyd y ffordd arferol; efe a drôdd, gan hyny, i fyned ar hyd ffordd arall; ac wrth fyned, teimlodd gymhelliad cryf i alw mewn tŷ adnabyddus iddo; wedi galw wrth y drws, daeth gŵr y tŷ i agoryd iddo; ac wedi cyfarch gwell iddo, dywedodd wrth ŵr y tŷ, "Nid oes genyf un neges i alw wrth eich tŷ, eto ni allwn fyned heibio, ac ni wn paham." "Os na wyddech chwi, fe wyddai Duw," ebe y gŵr, gan dynu cortyn oddiar ei gefn, â pha un y bwriadai ymgrogi. Bendithiwyd gweddiau a chynghorion Edward dduwiol iddo, a chipiwyd ef megys pentewyn o'r tân. Ac am y llanw a dybiasai fod ar ei ffordd, nid oedd dim i fod yr oriau hyny. Gresyn a fyddai terfynu y bras-ddarluniad hwn o'r amseroedd a derfynent ar yr oes Fethodistaidd, heb wneuthur crybwylliad am yr enwog Hugh Owen o Fron-y-clydwr, sir Feirionydd. Pan adferwyd y goron i Charles II yn y fl. 1660, yr oedd y gŵr hwn yn ieuanc, ac yn cael ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain; ond gan y teimlai betrusder i gydymffurfio â holl ddefodau eglwys Loegr, dewisodd aros allan o honi. Dychwelodd, gan hyny, o Rydychain i'w fro ei hun, gan ymroddi i fyw ar dreftadaeth fechan o'i eiddo, a phregethu yr efengyl yn rhad i dlodion diddysg Cymru. Fe fu ei lafur a'i lwyddiant yn y weinidogaeth yn dra hynod. Yr oedd ganddo ddeg neu ddeuddeg o leoedd y byddai yn arfer pregethu ynddynt, yn siroedd Meirion a Threfaldwyn; rhai o honynt yn nghylch 30 milldir oddiwrth ei gartref. Byddai yn arferol ganddo deithio i sir Gaernarfon hefyd, ac i barthau eraill o Gymru; ac wedi dychwelyd adref, mewn ysbaid tri mis dechreuai y gylchdaith eilwaith. Yn y modd yma y dylynodd ei orchwyl lawer o flynyddoedd, gan ddyoddef llawer o anwyd a newyn, wrth deithio haf a gauaf, dydd a nos, yn fynych trwy wlawogydd, rhew neu eira, a byw yn