Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/628

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swn y geiriau wedi peri i'r bobl edrych yn ddyfal o'u hamgylch ar y mynyddoedd a'r bryniau, gan dybied y caent weled rhyw weledigaeth hynod!

Un llwybr a ddefnyddid gan foneddwyr erlidgar yr ardaloedd hyn i ddangos eu perffaith ddiystyrwch o'r penau-cryniaid, oedd cyflogi rhyw ddyhiryn o ddawn a medr i'w dynwared, ac i beri iddynt chwerthin. Yr oedd dyn o'r fath, o'r enw Charles, yr hwn oedd delynwr, ac yn ddyn mawr ei gyfrif gan y boneddwyr, am y medrai eu difyru, weithiau drwy beroriaeth y delyn, ac weithiau trwy ryw goeg-ddigrifwch, a dynwared y Methodistiaid. Dywedir ei fod unwaith yn cymeryd arno ddynwared pregethu, ac yn cymeryd ei destyn fel hyn: "Epistol mawr yr apostol Harris; y drydedd bennod o ysgubor Bryn-hynod, a'r bedwaredd ystyllen yn y drws cefn!" I'r anfadrwydd ynfyd hwn, fe roes llaw Duw derfyn, trwy alw y telynwr i'r farn, yn ddisymwth! Wrth groesi y llyn, yn amser y rhew mawr, dygwyddodd iddo osod ei droed ar lygeidyn gwan o'r rhew, yr hwn a'i gollyngodd i'r dwfn! Trwy y ddamwain alaethus fe ddarfu ei wawd ef, a difyrwch y boneddigion, ar yr un pryd.

Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.

Fe sylwai John Evans, yn fynych, yn ei hen ddyddiau, am diroedd y boneddigion a fuasent gynt yn fwyaf erlidgar a gorthrymus i'r crefyddwyr, eu bod, heb un eithriad, wedi cilio i deuluoedd eraill. Dywedai hefyd na fu perchenogion y Rhiwlas erioed yn erlid, a bod eu hetifeddiaeth yn aros yn y teulu hwn hyd heddyw.

Ond er fod pregethu achlysurol yn Llanuwchllyn, fel y dywedwyd, er yn foreu, ni ffurfiwyd cyfarfod neu gymdeithas eglwysig hyd y flwyddyn 1791. Codwyd hi y pryd hwnw mewn tŷ o'r enw Gwndwn, ar dyddyn Coedladur. Nid oedd ynddi ond pump[1] o aelodau. Yr oedd y cynulliad eglwysig yn cael ei symud ar y dechreu o le i le, o herwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd. Symudwyd ef o'r Gwndwn i Dy'n-y-pistyll; oddiyno i'r Glyn, Llangower, ac yn ol drachefn i'r Pandy, i dŷ Evan Foulk, Llanuwchllyn. Yr oedd Evan Foulk wedi dyfod erbyn hyn at y Methodistiaid, er ei fagu gan mwyaf gyda'r Annibynwyr. Mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn mewn Gogledd a Dê, fel Cristion cywir a diddichell, pregethwr gwlithog a rhyfeddol mewn gweddi. Cafodd lawer o dywydd garw yn nechreu ei grefydd oddiwrth ei wraig, yr hon ocdd yn wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim â chrefydd. Yr oedd yn llawer rhy chwerw wrtho pan ydoedd gyda'r Annibynwyr, ond yu mwy felly wedi iddo ymuno â'r Methodistiaid. Cadwodd ef adref un tymhor, am hanner blwyddyn, gan ei rwystro i fyned i un math o addoliad ar y Sabboth, trwy guddio ei ddillad, ei esgidiau, a'i hosanau. Er mwyn ei flino, cyflawnai hithau orchwylion teuluaidd ar y Sabboth, nad oedd un math o angenrheidrwydd eu gwneuthur, oni bai eu gwneyd o wir her iddo ef. Un tro, pan ydoedd yn llyfnhau ei chapiau ar y Sabboth er mwyn ei flino, fe fethodd a dâl ei dymher, eithr gwylltiodd yn arswydus, a lluchiodd y cap-

  1. Richard Prichard, Graianryn; Edward Rowland, Madog; Elizabeth Edwards, Rhyd-fudr; Robert Thomas, Coedladur ; ac Owen Edward, Pen-y-geulan.