aeth y Parch. John Elias yno i gyfaneddu, mor ddiweddar a'r fl. 1799, "wedi disgyn i'r radd isaf o lygredigaeth a drygfoes. Yr oedd pechodau y bobl, fel yr eiddo Sodom a Gomorrah, â'u gwaedd wedi cyrhaedd y nef." Meddai yr un gŵr drachefn, "Barnwyf fod yn Mon 74 o blwyfydd, mewn ynys 29 milldir o hyd, a 22 o led. Gresynol yw dywedyd, fod y gwyliedyddion gosodedig y pryd hyny yn cysgu; a gwaeth na hyny, ymunent â gwagedd a drygfoes yr oes; ac aent rhagddynt mor bell ag i sefyll yn erbyn i genadon heddwch ac iachawdwriaeth ddyfod i'r ynys yn y dyddiau hyny."
Y mae yn ofid genym fod, yn ychwanegol at y llygredigaethau a nodwyd, un arferiad arall yn anurddo, nid gwlad Mon yn unig, ond llawer o barthau eraill o'r dywysogaeth, a hyn y'mhell cyn cof. Y llygredigaeth y cyfeiriwn ato ydyw, y dull y cyfrinacha meibion a merched ieuainc â'u gilydd. Mae gwylder agos yn llesteirio i ni ei nodi mewn ysgrifen, a'i ledaenu trwy yr argraffwasg; eto, y mae angenrhaid arnom ei ddynoethi; a gwyn fyd na allem ei osod allan yn ei erchylldra gwrthun, nes y byddai eiddigedd dros anrhydedd ein cenedl, dros ogoniant ein Duw, a llwyddiant achos y Gwaredwr, yn gwneuthur yr arferiad y cyfeiriwn ati, yn chwibaniad ac yn rheg dros byth; sef yr arfer o gydorwedd, neu garu yn y gwely, mewn ffordd o rag-gyfeillach cyn myned i'r sefyllfa briodasol. Nid yw yr arfer wrthun hon ddim yn ffynu yn holl siroedd Cymru yn ogyfuwch a'u gilydd; ac fe ddichon nad yw, ac na fu yn ffynu mewn rhai siroedd oll. Y parthau a gyhuddir yn fwyaf o'r llygredigaeth hwn, ydynt y rhai pellaf oddiwrth wlad ac iaith y Saeson—y parthau mwyaf Cymreig o'r dywysogaeth. Pa un a yw yr haeriad hwn yn gywir ai peidio, nid ein gorchwyl ar hyn o bryd a fydd penderfynu. Hyn sydd sicr a diymwad, fod yr arfer ffiaidd y soniwn am dani wedi disgyn yn etifeddiaeth i ni oddiwrth ein henafiaid. Nid arfer a gododd yn ddiweddar ydyw: nid y can mlynedd diweddaf a'i cynyrchodd. Gweddillion ydyw o'r llygredigaethau a orchuddiai ein gwlad, ac a anurddai ein cenedl, er oesoedd pell. Sicr a diymwad hefyd ydyw, nad oes dim ond grym defod, anwybodaeth trwch, a dideimladrwydd anifeilaidd, yn cadw yr arfer i fyny; ac mor sicr a diymwad a'r cwbl ydyw, fod mwy o ymdrech wedi ei wneyd i olchi ymaith y budreddi hwn oddiar nodweddiad y genedl, yn ystod y can mlynedd diweddaf, nag a wnaed er ys oesoedd cyn hyny. Ac yr ydym yn hòni yn hyf, na fu cyfundeb y Methodistiaid ddim yn ol i un enwad yn yr ymdrech canmoladwy hwn, os na pherthyn y rhagoriaeth iddynt hwy. Gan mai ein hunig amcan yn bresenol, ydyw cymeryd trem ar ansawdd y dywysogaeth pan y cychwynodd Methodistiaeth ynddi, nid ydym am aros gyda'r pwnc hwn, gan y daw yn naturiol dan sylw mewn dosbarth arall o'r gwaith hwn.
Y mae yr eithafion o ynfydrwydd y rhedai ein hynafiaid iddynt ar rai achlysuron, ymron yn anhygoel. Anhygoel, meddaf, nid am nad yw y natur ddynol yn barod i gyflawni pob drwg; ond am y goddefid i ddynion gyflawni y fath ddyhirwch, heb fod gwylder dynoliaeth, neu rym cyfraith, yn eu hattal. Y mae yn syn genym glywed cymaint o son am ddiniweidrwydd yr