hen bobl er ys talm, pan y traddodir i ni, ar yr un pryd, y fath achwynion trymion yn eu herbyn; ac y darlunir hwy yn euog o bob oferedd, traha, ac ynfydrwydd. Y mae yn syn genym hefyd, fod rhai o'r arferion cywilyddus y cyfeiriwn atynt yn aros mewn ambell i fan hyd yn ddiweddar, er maint yr ydys yn ymffrostio o fod ein gwlad yn wlad Gristionogol, a bod i'r genedl athrawon gosodedig yn mhob tref a phlwyf. Cawn gyfeirio at un o'r arferion hyn, yr hwn oedd yn aros yn nhref Conwy, er cyn cof, hyd o fewn ugain mlynedd yn ol; ond yr hwn sydd, bellach, wedi diflanu o flaen gweinidogaeth yr efengyl, a thrwy yr addysg a gyfrenir yn yr ysgol Sabbothol.
Y mae i dref Conwy yr anrhydedd o fod gynt yn breswylfa tywysogion Cymru; ac fel y cyfryw, yr oedd iddi gastell cadarn, a muriau uchel yn ei hamgylchu, y rhai ydynt yn awr, fel y rhan fwyaf o'r hen gestyll, wedi dirywio llawer; ond yn aros, hyd y dydd heddyw,'er yn adfeiliedig, yn wrthddrychau i dynu sylw, ac i enyn cywreinrwydd dynion ymchwilgar. Y mae y dref hon wedi ei hynodi hefyd â rhai arferion nad ydym yn darllen ond yn anfynych am eu cyffelyb; ac oni bae mai dymunol yw gweled pa orchestion eu maint a'u llesâd a wnaeth yr efengyl yn Nghymru, ni buaswn yn caru traddodi y coffa am danynt i genedlaethau dyfodol, eithr gadawswn iddynt ddisgyn i ebargofiant bythol.
Ar Sul y Pasg bob blwyddyn, âi lluaws mawr o breswylwyr Conwy, er cyn cof, i lan gerllaw y dref i'r gosber, yn feibion a merched; ac o'r gosber i'r dafarn, lle yr oedd yn arferiad i'r merched ar yr adeg hon, dalu am ddiod a elwid "BRAGOD." Ar ol hyn, dychwelent i'r dref, a gwahoddent eu gilydd i ymgasglu, er mwyn cyflawni gwaith y tymhor. Ymdyrai rhai canoedd at eu gilydd, ac aent o amgylch y dref i chwilio am y gŵr ieuanc a briododd ddiweddaf. Nid hawdd oedd i neb ddianc rhag y dorf ynfyd a dilywodraeth hon, ac nid oedd wybod y sarhad a roddid ar y neb a anturiai ddangos anfoddlonrwydd iddynt. Galwent mewn modd awdurdodol ar drigolion y dref i ddyfod gyda hwy; ac yr oeddynt mor eofn a haerllug, fel y galwent wrth ddrws addoldy am rai i ddyfod i ymuno â hwy. Wedi iddynt gael y gŵr a briododd ddiweddaf, rhoddid gorfod arno i fyned gyda hwy i le penodol oddiallan i'r dref, a dyn arall gydag ef, yr hwn a alwent yn glochydd iddo, i gyhoeddi y stocks. Rhoddid yr enw hwn ar yr arferiad, am fod a wnelai, tebygid, â gosod dynion yn y stocks neu y cyffion, a hyny o wir ddireidi. Cyhoeddid y stocks drwy ddatgan, fod yn rhaid i bawb, o bob rhyw ac oedran, godi y boreu dranoeth erbyn rhyw awr benodol, dan berygl cael eu stocsio am eu hesgeulusdra. Wedi gwneuthur y datganiad hwn, ac ar waith y gŵr a elwid yn glochydd yn dywedyd Amen, chwalai y gynulleidfa, gan brysuro i dori bob un gangen bigog o eithinen; ac â'r cangau eithin hyn, ymosodent fel gwallgofiaid i guro coesau eu gilydd yn ddiarbed, nes y byddai y gwaed yn ffrydio; ac yn yr ystum hwn y deuent i'r dref, y gŵr ieuanc o'u blaen, yn nghanol banllefau y lluaws didrefn.
Byddai y dydd, bellach, ar ben, a llawer a gilient i orphwys hyd y boreu; ond y rhai ffyddlonaf eu naws a arhoent ar eu traed ar hyd gydol y nos i