Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y fl. 1737, anfonwyd am dano, gan ŵr boneddig o sir Faesyfed, i ddyfod i gynghori i'w dŷ ef. Enynodd hyn gywreinrwydd llawer, a daeth amryw o bobl gyfrifol y wlad i wrando arno: cafodd dderbyniad croesawgar ganddynt, a lleihaodd, trwy ymddyddan â hwynt, lawer ar eu rhagfarn. Yr oedd yn parhau, y pryd hwn, i gadw yr ysgol; ac âi oddiamgylch i gynghori y nos felly hefyd y gwnai ar y Sabbothau a'r gŵyliau. Tua diwedd y flwyddyn, bwriwyd ef allan o'r ysgol; a thrwy hyny, eangwyd ar ei ryddid i fyned i bob man lle y gelwid arno ddydd a nos; a llefarai yn aml dair, pedair, neu bum waith, yn y dydd. Ond fel yr oedd ei lwyddiant yn cynyddu, felly cynyddai ei wrthwynebiadau. Y pen-swyddwyr a fygythient ei gosbi; yr offeiriaid a bregethent yn ei erbyn, gan ei ddynodi fel twyllwr a gau-broffwyd; a'r werinos a fyddent barod, ar yr amnaid lleiaf, i godi terfysg yn ei achos, ac i'w luchio: "eto," meddai yn ei ddyddlyfr, "dygwýd fi yn mlaen fel ar adenydd eryrod, yn fuddugoliaethus uwchlaw y cwbl."

Ni chymerai Howel Harris y pryd hwn yr un testyn, ond llefarai yr hyn a roddid iddo ar y pryd; a dygai yr "Arglwydd dystiolaeth neillduol i air ei ras." Un o feibion y daran ydoedd; llefai yn arswydus yn erbyn pechodau yr oes; a rhybuddiai ddynion diofal, mewn dull deffrous ac effeithiol iawn, o'u mawr berygl. Efe a fu yn foddion, fel hyn, i gynyrchu deffroad yn meddyliau lluaws mawr o ddynion, a diwygiad amlwg yn eu moesau, mewn llawer sir yn y dywysogaeth. Aeth y chwareuon gweigion, a'r campau llygredig, yn llai eu parch; a daeth crefydd yn destyn cyffredin ymddyddanion yn mysg y bobl. Tua'r amser hwn hefyd y clywodd Howel Harris am offeiriad ieuanc yn Lloegr, yr hwn yr oedd mawr son am dano, a'r hwn yr oedd ei weinidogaeth dan arddeliad anarferol. Yr offeiriad hwnw oedd George Whitfield. Yn nechre y fl. 1738, derbyniodd Howel Harris, er ei fawr syndod a'i lawenydd, lythyr oddiwrth Whitfield, yn ei annog i fyned yn mlaen yn galonog yn ei waith. Yr oedd y llythyr hwn yn cynwys gair yn ei bryd at Harris, yr hwn ar ryw adegau, a deimlai gryn betrusder yn ei feddwl, a oedd ef yn gwneuthur yn iawn. Gan yr ystyriai ei hun yn aelod yn yr eglwys; a chan na chawsai urddiad rheolaidd gan esgob; tybiai, weithiau, mai ei le oedd rhoi heibio ei ddull teithiol a direol o lefaru. Yr oedd cae llythyr, gan hyny, oddiwrth y fath un a Whitfield, yn ei galonogi i fyned rhagddo, yn gysur mawr iddo, ac yn tueddu i enyn ei sel yn adnewyddol. Yn y modd yma, yn nghanol ei holl ddigalondid, cynaliwyd ei feddwl i gyfarfod â myrdd o wrthwynebiadau, ac i barhau yn egniol i weithio yn ngwinllan ei Arglwydd. Yr oedd yn ymwybodol o onestrwydd ei amcan, a phrofai dangnefedd cydwybod;—cynysgaethid ef â chymdeithas â Duw yn y dirgel, a mwynhâai raddau helaeth o gynorthwy yn y gwaith. Coronid ei lafur eisoes â llwyddiant mawr, a sychedai y bobl am ei weinidogaeth; yr hyn oedd yn gynaliaeth mawr i'w feddwl, ac yn ei nerthu i barhau yn y gwaith. le, yn wir, nid oedd, bellach, lonyddwch iddo gael, pe dymunasai lonyddwch, gan y syched a brofid gan y bobl am ei weinidogaeth; ac yr oedd yntau ci hun yn rhy wan i wrthod iddynt eu cais. Yr oedd, fel y bu Luther