Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethodd yn yr eglwys dros dair blynedd, a "hyny," medd yr hanes, "gydag ond ychydig lwyddiant, i bobl dywyll ac anfoesol iawn."

Wedi iddo briodi un Mary Francis, pan oedd tua 32 mlwydd oed, daeth i drigo yn Llansawel. Nid hir y bu Williams yn weinidog eglwys Loegr. Achwynwyd arno yn llys yr esgob, a gosodwyd yn ei erbyn, yn ol ei ymadroddion ei hun, bedwar-ar-bymtheg o bechodau. Hyn a ddywedai "gyda llawer o ddifyrwch." Hawdd y gallwn feddwl, nad oedd y pechodau hyny yn rhai trymion iawn; a rhaid hefyd, nad oedd ganddo ddim rhyw anferth barch i lys esgob; onide, ni soniasai gyda difyrwch am ei sefyllfa euog. Y pechodau y cyhuddid ef o honynt, oeddynt y rhai hyn, a'u cyffelyb :—Peidio a rhoi arwydd y groes wrth fedyddio; peidio darllen rhyw ranau o'r gwasanaeth; a myned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i bregethu. Y peth olaf a grybwyllwyd, a wnaeth ar annogaeth y Parch. George Whitfield; gŵr ag oedd wedi pechu llawer yn y ffordd hon, ac yn hoffi yn fawr cael eraill i'r un rhestr bechadurus ag ef ei hun. Ni chafodd Williams erioed gyflawn urddau, fel y dywedir; pallodd yr esgob ei urddo, oherwydd ei afreolaeth yn pregethu yn mhob man y rhoddid cyfle iddo, ac am na chadwasai at eglwysi y plwyfydd yr oedd yn gweinidogaethu ynddynt. Dywedir ei fod yn anghymeradwyo yr afreolaeth hwn yn ei feddwl, yn ol llaw, dros ei holl ddyddiau. "Gweithred fyrbwyll ynddo, y'i cyfrifid ganddo; a barnai y gallasai fod yn fwy defnyddiol, pe buasai yn fwy araf a phwyllog." Am ei waith yn pregethu yr efengyl draw ac yma, lle bynag y byddai drws agored iddo, yr ydym yn tueddu yn fawr i gredu, na chafodd Williams le i edifeirwch, mwy nag am y deunaw pechod arall. A phrin y gallaf fi feddwl mai felly yn gymhwys yr oedd. Dichon fod Williams yn edrych ar ei ysgogiadau gyda gweinidogaeth yr efengyl o'r dechread, yn fyr o bwyll a dwysder; yn cymeryd yn gyntaf ei urddo yn ddiacon gan esgob; a thrachefn, yn bwrw ymaith yr iau a gymerasai arno ei hun mor ddiweddar. Fe allai y dangosasai fwy o bwyll a dwysder, pe nad aethai i'r eglwys oll; ie, nid anmhosibl ydyw y buasai mwy o ystyriaeth a difrifwch yn ei attal i gymeryd ei urddo gan un esgob. Yr oedd ei dad yn ymneillduwr; a than athraw ymneillduol y derbyniodd ef ei ddysgeidiaeth ac o dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd a fuasai iddo ystyried ei waith yn myned i'r eglwys, ac nid ei waith yn ei gadael, yn effaith ysgafnder a byrbwylldra. Ond nid yw y modd yr edrychai Williams ar ei ymddygiad, yn effeithio dim ar y cwestiwn ynddo ei hun, ai priodol ai anmhriodol ei ymddygiad;—ai myned i'r eglwys ar y dechre, ynte ei gadael drachefn, oedd y bai trymaf.

Mae Crist ei hun, i'r hwn y perthyn sefydlu cyfreithiau ei deyrnas, wedi gorchymyn i'w ddysgyblion fyned i'r holl fyd, a phregethu yr efengyl i bob creadur, gan addaw ei bresenoldeb ei hun gyda hwy yn y gwaith. Nid yw yn werth mynyd o amser, gan hyny, i ymofyn a oes hawl gan esgob eglwys Rhufain, neu esgob eglwys Loegr, i osod deddf wrthwyneb i'r eiddo Crist. Ni roddwyd y fath hawl i neb erioed. Nid oes cyfyngu i fod ar weinidogaeth neb o weision Crist, ond o fewn y terfynau a esyd rhagluniaeth ddwy-