Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ystrad-ffin. Yr oedd y capel eglwysaidd hwn o fewn y plwyf yr oedd Williams yn byw ynddo, a rhoddwyd cyfleusdra trwy hyny iddynt gael cyfarfod â'u gilydd, a ffurfio cyfeillgarwch na ddiffoddodd hyd angau.

Ein hamcan yn bresenol ydyw olrhain cychwyniad y diwygiad yn ngwahanol barthau y dywysogaeth. Yr ydym, gan hyny, yn gadael allan, ar hyn o bryd, luaws o amgylchiadau dyddorol yn mywydau y gwŷr enwog hyn, gan eu bod yn blethedig a CHYNYDD Methodistiaeth, at yr hwn y byddwn eto yn galw sylw y darllenydd.

II. Y Parch. HOWEL DAVIES, Sir Benfro.—Ymddengys fod y gŵr enwog hwn yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru;—yn mysg y rhai blaenaf, meddaf, o ran amser ac o ran enwogrwydd. Y mae yn resyn fod defnyddiau ei hanes mor brinion, ac ni allwn lai na beio yr esgeulusdra a fu yn hyn yma. Ar yr un pryd, y mae cryn esgusawd i'w roddi dros y diffyg, pan ystyriom leied o ysgrifenwyr oedd yn Nghymru am amser maith ar ol ei amser ef, a lleied hefyd a wneid o ddefnydd o'r argraffwasg y pryd hyny, ymron, gyda dim.

Disgynai y Parch. H. Davies o deulu parchus a chrefyddol; ac ymddangosodd ynddo o'i ieuenctyd awydd am wybodaeth, ac athrylith i'w gyrhaedd. Gwedi treulio rhyw gymaint o amser mewn ysgol yn ei ardal gartrefol, gosodwyd ef dan ofal yr apostol Cymreig, fel y gelwid weithiau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, gŵr y soniasom eisoes am dano, a gŵr a deilynga fod ei goffadwriaeth beraroglaidd yn disgyn i fil o genedlaethau. Nid oedd iechyd y gŵr ieuanc y pryd hyny ond egwan; er hyny, fe gynyddodd yn fawr mewn dysgeidiaeth. Yr oedd o duedd ddifrifol ac astud bob amser; ond dan weinidogaeth Mr. Jones, daeth i adnabod y "gwirionedd megys y mae yn yr Iesu." Gogwyddai ei feddwl yn gryf at waith y weinidogaeth; a phenderfynodd, wedi ymbwylliad a gweddi, ymofyn am urddau yn eglwys Loegr.

"Ar ddydd ei urddiad," medd ei fywgraffydd, "rhoddai Mr. Jones hysbysiad o hyny i'r holl gynulleidfa, a deisyfai ran yn eu gweddiau, ar fod i Ben mawr yr eglwys dywallt ei Ysbryd arno, a'i wneuthur yn llwyddiannus iawn yn ei weinidogaeth. Efe a aeth allan, ac, yn ysbryd a nerth Elias, pregethodd, nid ei hunan, ond Crist Iesu yr Arglwydd."

Yr eglwys gyntaf y galwyd ef i weini ynddi ydoedd Llys-y-frân, yn swydd Benfro. Ymddangosai yn fuan fod gweddiau cynulleidfa Llanddowror wedi llwyddo ar ei ran. Deallwyd yn fuan mai nid gwyliedydd dall a chysglyd ydoedd; ond gyda ffyddlondeb teilwng i'r ymddiried a roddasid ynddo, fe rybuddiai yr annuwiol, ac a ddywedai, "Ti annuwiol, gan farw y byddi". Ond nis gallai ei gynulleidfa oddef yr hyn a draethid ganddo, a llwyddwyd i'w gael ef allan o'r eglwys hóno. Ar hyn, pregethai Mr. Davies yn mhob eglwys a fyddai agored iddo trwy yr holl wlad; a diau y bu ei droad ef allan o eglwys Llys-y-frân yn wasanaethgar yn y canlyniad, fel carchariad Paul yn Rhufain, i lwyddiant yr efengyl. Aeth y son am dano