at Howel Harris. Yn y llythyr hwn, ysgrifena fel hyn: "Gyda golwg ar waith ein Meistr mawr yn ein plith, yr wyf yn meddwl ei fod ar gynydd;— er bod genym rai a syrthiasant oddiwrth eu gwresogrwydd a'u symlrwydd cyntaf; eto, yn y lleoedd amlaf, mae eu cynydd yn amlwg. Mae yr Arglwydd Jehofa yn teyrnasu ynddynt mewn gwirionedd; mae ei ogoniant i'w weled yn fwy amlwg nag erioed; a llawer eto, yma a thraw, a chwanegwyd atom—bendigedig fyddo ei enw! Er y pryd yr ymadawsom o'r gymanfa, rhoddais dro yn swydd Morganwg; a bu i rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy hun, yr wyf yn hiraethu am fyned yno drachefn yn fuan, canys diau fod Duw gyda hwynt. Y'mherthynas i fy mynediad i'r Gogledd, yr wyf yn meddwl y bydd yn rhy boenus i mi sydd yn parhau o hyd yn llesg a chlefyca; ond pa fodd bynag, yr wyf yn penderfynu cynyg hyny, pe gorfyddai i mi farw ar y ffordd!" Mae yr ychydig eiriau hyn yn niwedd y llythyr, yn dangos maint yr anturiaeth i bregethwr ddyfod i'r Gogledd y pryd hyny; a hefyd, y fath ysbryd ymroddgar a feddiannai y gweinidog hwn, gan ei fod yn penderfynu gwynebu ar yr anturiaeth, er gwaeled ei iechyd, ie, pe gorfyddid iddo farw ar y ffordd!
Yr oedd Mr. Davies, medd ei fywgraffydd, yn ddadleuwr mawr dros bregethu teithiol, gan y credai yn ddiysgog bod llawer o fywyd crefydd yn ymddibynu ar hyny; a thra y byddai yn ymdrechu i gael gweinidogion o bell i gynorthwyo yn y cynulleidfaoedd y buasai yn offeryn ef i'w cyfodi; felly, gyda phob parodrwydd meddwl, elai yntau i weini i gynulleidfaoedd pellenig, lle y gwyddai fod ei wasanaeth yn dderbyniol. Cafodd lawer o arwyddion diymwad fod ei weinidogaeth gartref, ac oddicartref, yn fendithiol, ac i'w Arglwydd ei anrhydeddu yn dra mawr, trwy ei wneuthur yn bregethwr hynod o lwyddiannus.
Dywedir i ni iddo fod, am ryw dymhor, yn gurad i'w hen feistr, periglor Llanddowror, lle y cerid ac y perchid ef yn fawr gan lawer, a lle y bu yn offerynol i ddychwelyd llawer o ddynion at Dduw. Drachefn, efe a symudodd i Hwlffordd yn sir Benfro. Yn y lle hwn, yr oedd crefydd, ar y pryd, yn isel iawn; yr ychydig broffeswyr yn llwfr a difywyd; a chorff y bobl yn berffaith ddiofal am bethau ysbrydol. Ond nid hir y bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yn y dref hon, cyn fod swn a chynwrf yn mhlith yr esgyrn sychion. Bendithiwyd ei lafur i ddwyn llaweroedd dan argyhoeddiadau dwysion; a chyniweirient bellach, nid i gyfarfodydd llygredig, ac at eu cyfeillion ofer, ond at ŵr Duw, i ymofyn ag ef, "Pa beth a wnaent fel y byddent gadwedig." Ac nid yn Hwlffordd yn unig yr ymddangosodd y cyfryw arwyddion; ond ymdaenodd y cyffro crefyddol hwn dros holl swydd Benfro, trwy ei lafur ef, ac eraill a'i cynorthwyai.
Yr oedd y Parch. Howel Davies yn meddu ar raddau helaeth o wybodaeth, ac o ddawn. Yr oedd y talentau hyn o ddawn a dysgeidiaeth wedi eu heneinio hefyd yn helaeth â'r olew santaidd, fel ag i beri iddo ddysgleirio yn brydferth a defnyddiol iawn. Dywedai rhai nad oedd nemawr yn fyr o fod yn gydwastad â Rowlands ei hun mewn doniau ennillgar, a gweinidogaeth