Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lyfrau yn eu hiaith. Yr oedd medru darllen yn ris mor uchel, nad oedd ond nifer fechan iawn wedi ei chyrhaedd. Cyn dyddiau Mr. George a Stephen Hughes, yr oedd y Beiblau mor anaml a'r llanau, a'r rhai a'u darllenent ymron yn anamlach na hyny. Dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd ydoedd fod y genedl yn gyffredinol wedi disgyn i ddyfnderoedd ofergoeledd, a'i bod wedi ei gorchuddio â chaddug o anwybodaeth, ac fod arferion y genedl yn cydweddu ag ansawdd dywyll yr oes. — (Methodistiaeth Cymru, Cyf I., tudalen 45.) Cyfeiria Mr. Hughes, yn y sylwadau uchod, at yr holl gyfnod or Diwygiad Protestanaidd hyd y Diwygiad Methodistaidd. Creda Mr. Hughes, er yr hyn oll a ddywedodd yn yr adran a ddyfynwyd, na chafodd cenedl y Cymry un amser ei llyncu i fyny mor llwyr i ynfydrwydd anfad Pabyddiaeth a'u cymydogion y Saeson. Fe ddichon fod y dybiaeth yna yn wir, ond y mae yn wir hefyd na chafodd Cymru deimlo cymaint o ddeffroad nerthol y Diwygiad Protestanaidd, ac o rym ysbrydol y cyfnod Puritanaidd, ag a brofodd Lloegr ac Ysgotland. Cawsom y Beibl i'n hiaith yn nyddiau y Frenhines Elizabeth, eto nid oedd nifer y pregethwyr grymus yn lliosog y pryd hwnw. Ond y mae yn ddiameu fod yr ysbryd chwareu anfoesol ar halogi Sabboth cyhoeddus, a ddaeth i arferiad dan Siarl yr Ail, wedi cyrhaedd Cymru, ac wedi treiddio i bob ardal bron, nes eu lefeinio ag ysgafnder halogedig ac amddifadrwydd o bob difrifwch crefyddol. Y mae gan y gair Twmpath y deuir ar ei draws yn hanes aml i ardal yn Nwyrain Meirionydd, ei chwedl iw hadrodd. Cyd-dystia ar hyn ddywedid gan yr hen bobl, am y modd anystyriol y treulid y Sabbothau yn ein gwlad yn ystod y ddeunawfed ganrif. Nid cyn dechreu y ganrif ddiweddaf y rhoddwyd pen ar lawer o lygredigaethau cyhoeddus yn mhlwyfydd Sir Feirionydd. Heblaw fod yr anwybodaeth ar ofergoeledd yn fawr, ar llygredigaeth yn ysgeler, yr oedd rhyw ysbryd chwerw a gelynol iawn mewn rhyw nifer at y rhai a rybuddient y bobl, ac a geisient eu diwygio. Tra y dymunem gadw mewn cof, mai gwlad y bu Cristionogaeth yn ei lefeinio ac yn dyrchafu ei gwareiddiad am ganrifoedd lawer yw ein gwlad ni, a'i bod yn y cyflwr iselaf y bu ynddo yn yr oesoedd diweddaf hyn yn dra gwahanol i wlad baganaidd, eto ni a gawn olwg, yn agwedd y wlad yn yr amser yr ydym yn son am dano yn awr, ar yr hyn sydd i'w ddisgwyl pan a yr eglwys yn gysglyd a difater, ac ysbryd y byd yn ei llywodraethu, ac nid Ysbryd Crist. Onid yw yn hynod fod bron holl offeiriaid yr Eglwys Wladol yn teimlo mwy dros unffurfiaeth arwynebol yr eglwys nag a deimlent o eiddigedd dros egwyddorion mawrion gwirionedd a sancteiddrwydd? Ac onid yw yn syndod fod cymaint o fân ynadon ac ysweiniaid Cymru yn dangos y fath elyniaeth at y