Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael gan yr eglwysi anfon eu hanes iddo, ac yntau yn byw yn rhy bell o'r cymmydogaethau i fyned yno i holi yr hen breswylwyr. Yr ydym ni, er ein bod yn byw yn yr ynys, ac wedi gofyn i'r un personau lawer gwaith anfon ychydig o hanes yr eglwysi y perthynant iddynt i ni, a hwythau yn addaw gwneyd, wedi bod yn anobeithio cael dim ganddynt. Fe wêl y darllenydd mai ein hamcan yn hyn yw amddiffyn yr awdwr, o herwydd y diffyg sydd yn hanes Methodistiaeth Môn yn Methodistiaeth Cymru. Ystyriaeth arall a'n cymmhellodd i gychwyn ar y gwaith, ac a fu yn gynnorthwy i ni ddal ati, a pheidio rhoddi i fyny mewn digalondid, ydyw cymmeradwyaeth ein brodyr yn y weinidogaeth , a Chyfarfod Misol Môn, o'r anturiaeth . Ni chyfarfyddasom â chymmaint ag un pregethwr nad oedd yn dywedyd, ' Ewch yn mlaen ; ' nac un Methodist yn Môn nad oedd yn cymmeradwyo y meddylddrych o gael hanes Methodistiaeth Môn. Pe buasem yn gweled unrhyw obaith y gallasem gynnhyrfu un o'n brodyr ieuengach , a llawer galluocach na nyni, i ymgymmeryd â'r gorchwyl, ni buasem, mewn un modd, yn ymgymmeryd â'r fath lafur, ac â chyfrifoldeb mor fawr; a buasem yn rhoddi pob cynnorthwy a allasem i unrhyw frawd a fuasai yn ymgymmeryd â'r anturiaeth.

Teimlwn ein bod yn ymwneyd â gwaith ag yr ydym mewn perygl o anfoddhau rhai brodyr. Tybia rhai, fe allai, ein bod yn gorganmawl ambell un, ac yn canmawl rhy ychydig ar un arall. Nid ydym yn hơni anffaeledigrwydd; ond yr ydym yn hơni cydwybodolrwydd . Os ydym yn methu wrth ddadansoddi ambell gymmeriad, anwybodaeth ydyw yr achos, ac nid diffyg cydwybod i wirionedd. Hwyrach y dywedir ein bod yn rhoddi gair