Tudalen:Methodistiaeth Môn.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

da i un blaenor mewn eglwys, a myned heibio i un arall , cystal dyn ag yntau, yn lled ddisylw . Ein hamddiffyniad yn wyneb hyn ydyw ein hadnabyddiaeth o un rhagor y llall, ac nid gwahaniaeth mewn teimlad . Fe allai у dywed rhai у buasem yn ddoethach pe buasem yn peidio talu sylw mewn un modd i ddiffygion ein brodyr. Yr ydym yn berffaith foddlawn i rai Methodistiaid feddwl felly ; ond yr ydym yn ostyngedig ofyn iddynt hwythau ganiatau i ninnau feddwl yn wahanol. Y mae ysbrydoliaeth yn talu sylw i ddiffygion dynion da, fel i'w rhinweddau:—i feddwdod Noah, fel i'w gyfiawnder ef ; i aflendid Lot, fel i'w waith ef yn poeni ei enaid cyfiawn trwy anghyfreithlawn weithredoedd yr anwiriaid ; ac i waith Pedr yn tyngu, ac yn gwadu ei Arglwydd, fel i'w waith yn ei gyffesu ef yn 'Grist Mab y Duw byw'. Y mae pob dyn i'w adnabod wrth ei ddiffygion, fel wrth ei ragoriaethau . Yr ydym yn cyffwrdd â doluriau yn y modd tyneraf y gallwn.

Nid ydym yn hồni ein bod yn enwi pob swyddog a fu yn yr holl eglwysi trwy yr holl gyfnodau ; ond nid ydym wedi gadael allan gymmaint ag un y gwyddem am dano, oddi eithr trwy amryfusedd. Y mae yn dra thebygol y gallem fod wedi crybwyll enwau rhai, yn y cyfnodau cyntaf, fel blaenoriaid , a hwythau heb fod felly, yn ystyr manwl y gair; ond eu bod yn ddynion gweithgar a defnyddiol gyda'r achos. Teimlwn ein bod yn rhwymedig i gydnabod, gyda diolchgarwch, barodrwydd brodyr mewn rhai eglwysi i'n cynnorthwyo, trwy anfon i ni ychydig o hanes Methodistiaeth yn eu cymmydogaethau.. Derbynied y cyfeillion hyny ein diolchgarwch diffuant.