Prawfddarllenwyd y dudalen hon
waith deffrôdd ei diddordeb yn yr eneth â'r llais mwyn, a dyfalai y rheswm am ei hunigrwydd.
"Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd," ebe Nansi, gyda gwên gyfeillgar, "efallai, wedi'r cwbl, bod y storm wedi gwneud cymwynas â ni'n dwy, drwy ddod â ni at ein gilydd fel hyn."
Prin y breuddwydiai Nansi mor wir oedd ei geiriau.