Edrychodd Nansi a'i thad ar ei gilydd; yr un peth ym meddwl y ddau. Efallai i'r Morusiaid ganfod yr ewyllys a'u bod wedi ei dinistrio.
Gofynnodd Edward Puw amryw o gwestiynau ymhellach. Er mor awyddus oedd y genethod i helpu, ychydig o oleuni a allent daflu ymhellach ar fater yr ewyllys goll. Cawsant dê gyda'i gilydd, a diolchasant i Mr. Puw am ei ddiddordeb yn eu helyntion. Codasant i fyned.
"Os gallaf eich helpu mewn unrhyw fodd, gwnaf hynny," ebe Mr. Puw wrth y chwiorydd, wrth eu hebrwng i'r drws, "ac wrth gwrs ni raid i chwi bryderu am dâl am fy ngwasanaeth. Ond heb yr ewyllys, amhosibl fydd gwneuthur dim.
Ar ôl i'r genethod ymadael trodd Nansi lygaid ymofyngar ar ei thad.
"Genethod dymunol iawn," ebe ef. "Haeddant bob cynorthwy."
"Felly, bwriedwch roddi eich cynorthwy iddynt?" gofynnai Nansi'n eiddgar.
"Ofnaf na fedraf wneud fawr iawn." Yr oedd golwg gofidus yn llygaid Mr. Puw. "Pur debyg bod yr ewyllys ar goll am byth. Ni synnwn ronyn pe bai wedi ei dinistrio."
"Gan y Morusiaid?"
"Ie."
"Bûm innau'n meddwl yr un peth," ebe Nansi. "Dyna allasech ddisgwyl pe cawsent yr ewyllys i'w dwylo. Pobl hollol ddiegwyddor ydynt yn ôl popeth glywir amdanynt."
"Wrth gwrs, Nansi, rhaid i ni fod yn wyliadwrus beth a ddywedwn. Un peth yw amau, ond peth arall yw profi bod y Morusiaid wedi gwneud i ffwrdd â'r ewyllys. Credaf y buasai'n annoeth crybwyll hynny wrth y chwiorydd. Haeddant ran o'r eiddo'n ddiamau. Ond mae'n anobeithiol iawn iddynt gael eu cyfran heb i'r ewyllys newydd ddod i olau dydd.'