Tudalen:O Law i Law.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"History, " meddai hithau. "Sgwennu essay."

"Ar be', deudwch?"

"House of Lancaster."

"O? Yn lle 'roedd hwnnw?"

"Pobol oeddan nhw, nid tŷ. Nhw oedd yn ymladd yn erbyn yr House of York."

"O? Pryd oedd hynny?"

"'Dwn i ddim . . ym . . . Hannar munud imi gael edrach ar y llyfr 'ma . . . Yn 1455 y daru nhw ddechra' ymladd."

"Mae lot o amsar er hynny, ond oes? 'Oeddan nhw tua'r un amsar â'r Owan Gwynadd 'na y byddai Rhisiart Owen yn sôn amdano fo?"

"'Wn i ddim, wir. Na, mae'n debyg fod hwnnw ymhell ar 'u hola' nhw, ne' 'fasa' Rhisiart Owen yn gwbod dim amdano fo."

Daeth Mr. Jones i ddrws y gegin.

"Dowch i mewn i'r stydi, John."

Yno, rhoes fi i eistedd mewn cadair gyffyrddus, ac eisteddodd yntau gyferbyn â mi. Teflais lygaid syn ar y silffoedd o lyfrau a lanwai ddau fur yn gyfan, ac ar y llyfrau eraill a oedd yn bentyrrau twt ar waelod y trydydd mur. A oedd Mr. Jones wedi darllen y rhai hyn i gyd, tybed? Clywswn fy nhad droeon yn dweud y dylai'r capel roi mwy o gyflog i'r gweinidog, a'i fod yn methu â deall sut y gallai gadw Emrys ac Olwen yn yr Ysgol Ganolraddol a gwisgo mor barchus a phrynu llyfrau a chyfrannu mor hael at hyn a'r llall. A brynasai ef yr holl lyfrau yma, tybed? Sylwais mai go hen a llwyd oedd y dillad duon amdano, a bod godre'r fraich ddeau yn dechrau dadweu.

"'Y Bradwr', yntê? Gad imi weld y llyfr, 'machgen i."

Rhoddais y llyfr iddo, a phwysodd yntau ymlaen yn ei gadair i fwrw golwg tros y darn. Gwelwn fod ei wallt yn dechrau gwynnu'n barod er nad oedd ond rhyw dair neu bedair a deugain; gwelwn hefyd fod llinellau amlwg yng nghroen ei wyneb tenau, myfyrgar. Fel pregethwr yn y pulpud neu fel ymwelydd â'm tad a'm mam yr edrychais arno o'r blaen; pregethwr tawel a dwys ac ymwelydd y brysiai fy mam i'w anrhydeddu trwy fy ngorchymyn i glirio fy "hen dacla'" o'r bwrdd. "Un sâl gynddeiriog am ddeud