Tudalen:O Law i Law.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

John Lloyd yn un o'r rhai cyntaf, a cherddodd yntau'n hamddenol ac urddasol i'w le ar y sedd.

Wrth fy ochr i yr oedd merch o'r enw Nel Owen. Eisteddais braidd yn swil wrth ei hymyl, ond cyn bo hir sibrydodd,

"Mae arno' ni i gyd eich ofn chi."

"Fy ofn i? 'Rargian, pam?"

"Am i chi ennill ar y darn yma yn Llanarfon."

"Pwy ydi'r beirniad 'ma?" sibrydais.

"Ifan Ifans o Lanybwlch 'ma."

"O?"

"Fo sy'n hel siwrin yma. 'Ŵyr o ddim mwy am adrodd na dylluan."

Wedi ateb i'r enw "Tegwen Eryri," camodd rhyw ferch addurnol, orwych, i ganol y llawr, ac ar ôl saib dramatig rhuodd y geiriau "In Memoriam — Hedd Wyn" tros ben y beirniad a'r ysgrifennydd at y mur gyferbyn â hi.

"Bloedd uwch adfloedd," sibrydodd Nel Owen yn fy nghlust.

Cymerodd "Tegwen Eryri" gam yn ôl ac estyn ei dwy law o'i blaen fel pe i ddenu'r beirniad i'w breichiau. Yna, â rhyw gryndod anferth yn ei llais,

"Y bardd trwm dan bridd tramor."

Gwyddwn y dylwn wylo, ond yn lle hynny, daeth rhyw bwl afreolus o chwerthin trosof. Cymerais arnaf rwbio fy llygaid i guddio fy wyneb, ac ni wnaeth y pwniad a roes Nel Owen imi yn fy ochr ond gyrru pethau o ddrwg i waeth. Gwelais trwy fy mysedd fod y beirniad wedi suddo'n ôl i'w gadair a chau ei lygaid, a phan glywais galon "Tegwen Eryri"'n torri wrth sôn am "y llygaid na all agor," bu raid imi chwilio am fy nghadach poced â'r llaw arall a chuddio fy wyneb ynddo.

Enw John Lloyd a alwyd yn ail, a chododd yntau yn araf ac urddasol o'r sedd. Agorodd y beirniad ei lygaid i wenu'n gyfeillgar ar un o'r frawdoliaeth "hel-siwrin", a goleuodd y wên wneud am eiliad ar wyneb Ioan Llwyd. Cerddodd ar draws y llawr fel petai ar hynt urddasol tua'r mur gyferbyn, ond arhosodd yn sydyn ar y canol fel milwr a glywsai "Halt!" o enau sarsiant. "Left turn!" oedd y gorchymyn dychmygol nesaf, ac yna aeth y droed dde hanner cam ymlaen a'r llaw i'w lle ar ei frest. Pesychiad, trem i fyny,