Tudalen:O Law i Law.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gwir hefyd fod yn rhaid i Twm Twin dorchi ei lewys bob tro y dymunai ddyfod o hyd i'w ddwylo — ond craffu'n fusneslyd yr oeddych i ddarganfod rhyw fanion felly. Sleifiodd allan — yng nghwmni William Preis, efallai—yn ystod yr emyn olaf, gan adael o'i ôl derfysg o gwestiynau. Pa gorwynt a chwythasai Twm Twm i'r oedfa? Ai William Preis a'i harweiniodd yno? Ymh'le y cawsai'r dillad? Ai Cadi Roberts a'u dug i'r golau o ddyfnderoedd rhyw gwpwrdd a fuasai'n gwarchod trysorau ei gŵr ers ugain mlynedd? Atebodd pob un yn ôl y doethineb a roddwyd iddo.

Pam y daethai Twm Twm i'r capel, ni wn. Dywedai rhai i Mr. Jones y Gweinidog ddilyn rhyw blentyn a gludai gath glwyfedig i ystabl Siop y Gongl, ac iddo synnu a rhyfeddu at ddeheurwydd a thynerwch y dwylo anffaeledig yno. Ni wn, ond deuai i'r addoliad Sul ar ôl Sul yn ei wisg hynafol, a sleifio'n dawel, ar ôl y noson gyntaf honno, i'r sedd gefn yr ochr arall i'r capel, rhag i William Preis deimlo'n anghysurus o'i arddel. Yr oedd William Preis ac yntau'n gyfeillion mawr — yn y Red Lion, ond y mae'n bur debyg y teimlai'r barbwr na ddylai'r cyfeillgarwch hwnnw ddatblygu yng nghwmni'r saint, a thyfodd rhyw gytundeb greddfol rhwng y ddau i anwybyddu ei gilydd. Neu efallai fod Twm Twm, yn holl ogoniant ei ddillad Sul, am fod yn llawn mor annibynnol â William Preis.

Rosie Hughes a gychwynnodd y gwrthryfel yn erbyn Twm Twm. Hen ferch biwis ac addurnol oedd Rosie, un bwysig ac urddasol iawn yn ei thyb ei hun. Eisteddai, yn dlysau a sidanau i gyd, yng nghongl y flaenaf o'r pedair sedd a ffurfiai ysgwâr i'r chwith o dan y pulpud, a gwelai o'r fan honno bawb yn y gynulleidfa. Aeth cyffro drwy ei holl blu sidanog pan ganfu Twm Twm, y nos Sul gyntaf honno, a rhoes dro sydyn yn ei sedd a chodi ei gên i ddangos yn eglur i bawb yr ystyriai beth fel hyn yn warth ac yn sarhad personol. "Be' oedd y bwgan-brain 'na yn wneud yn y capel, Robert Davies?" oedd ei chwestiwn i'm tad cyn brysio'n fân ac yn fuan, fel iâr ar ei hurddas, allan o r capel. Ond dal i ymddangos yn y sedd olaf a wnâi'r "bwganbrain," a phenderfynodd Rosie Hughes gysegru holl egnion