Tudalen:O Law i Law.pdf/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

peth yn worry mawr i mi, Robert Davies, yn worry mawr iawn. A 'fedra' i ddim, on my conscience, roi hundred pounds Anti Edith druan i'r capel os ydi o i fod yn le i bobol fel yr hen Tom Tom 'na. I just can't do it, ydach chi'n dallt. Y mae smell diod arno fo hyd yn oed ar y Sul."

Daeth Mr. Jones y Gweinidog i mewn i'r tŷ y munud hwnnw, a chododd Rosie Hughes ar dipyn o frys. Ysgydwodd Mr. Jones law â hi, gan ddweud mai dim ond galw am funud yr oedd ac na fynnai iddi gychwyn ymaith er ei fwyn ef.

Ond yr oedd Rosie newydd gofìo ei bod hi ar frys gwyllt.

"Be' sy, Robat Davies? "gofynnodd Mr. Jones ymhen ennyd, gan sylwi bod fy nhad yn dawel iawn.

"'Ydach chi isio canpunt at gronfa'r eglwys, Mr. Jones?" oedd ateb fy nhad.

"Gan Miss Rosie Hughes?"

"Ia."

"Wel, oes, debyg iawn, Robat Davies. Mi fedar hi fforddio'r arian, yn enwedig 'rŵan ar ôl marw 'i modryb."

"Medar. Ond mae 'na un amod, Mr. Jones."

"Amod?"

"Ein bod ni'n gofyn i Twm Twm aros i ffwrdd o'r capal."

"O?"

"Be' ydi'ch barn chi, Mr. Jones?"

"A oes angen i chi ofyn, Robat Davies?"

A llanwodd y ddau eu pibellau i gael mygyn uwchben un neu ddau o faterion eraill yn ymwneud â'r capel.

Colli ei dymer ar unwaith a wnaeth Ifan Môn pan aeth Rosie Hughes ato ef ynglŷn â'r un pwnc, ac adroddai'r hanes wrthyf i a'm tad ar y ffordd i'r chwarel gyda balchder mawr. "Mi ddeudis i wrthi hi am gadw 'i hen bres, Robat," meddai, "ac 'mod i'n gobeithio gweld Twm Twm yn flaenor hefo ni cyn bo hir. Mi gês i row gynddeiriog gan y ferch 'cw ar ôl i Rosie fynd."

Bob bore ar y ffordd i'r gwaith, Twm Twm oedd testun y sgwrs rhwng fy nhad ac Ifan Môn. A phan ddechreuodd Rosie Hughes ac eraill sorri ac aros gartref o'r capel, tyfodd Twm Twm eu hymgom yn arwr i farw drosto, yr hen bechadur yn sant a erlidid, y dyhiryn yn wron, y meddwyn yn ferthyr o'r merthyron. Esgynnodd Twm Twm o ddinodedd glanhawr ystabl Siop y Gongl i fod yn Achos