Tudalen:O Law i Law.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Holed pob dyn ef ei hun," meddai Mr. Jones yn dawel wrth fwrdd y Cymundeb, gan edrych, mi debygwn, i gongl y sedd bellaf un. Yn ei weddi, diolchodd am y Gŵr a fu farw tros drueiniaid y byd, tros bublicanod a phechaduriaid, tros yr amharchus eu gwisg a'u gwedd. Erfyniodd ar Dduw am ddeffro'r Samariad yn ein calonnau ac am faddau inni ein parodrwydd i fyned o'r tu arall heibio. Cofiaf hyd heddiw un frawddeg o'r weddi seml honno. "Gweld pobl yr ydym ni, ein Tad," meddai. "Dyro ras inni i geisio'u deall."

Pan estynnodd Ifan Môn blât y bara imi y nos Sul honno, teimlwn, am y tro cyntaf, fy mod yn cymryd rhan mewn ordinhad sanctaidd iawn. Wrth blygu fy mhen, daeth imi ddarlun o Twm Twm wedi ei ddiosg a'i archolli gan ladron ei bechodau ei hun a'i adael yn hanner marw ar fin y ffordd. A cheisiais innau, fel y Samariad trugarog hwnnw gynt, groesi ato i rwymo'i archollion ac i dywallt ynddynt olew a gwin.

Byth er hynny, am Mr. Jones ac am Twm Twm y meddyliaf yn ystod y Cymundeb. Y mae hi'n dair blynedd bellach er pan fu farw Mr. Jones, ac ni alwyd gweinidog gennym i gymryd ei le. Ymddengys y tair blynedd imi fel doe, ac felly hefyd y deng mlynedd er pan fu'r helynt ynglŷn â Twm Twm. Gwelaf, wrth syllu ar y lliain gwyn acw a drawodd Meri Ifans ar silff y dresel, wyneb main a gwelw Mr. Jones wrth fwrdd y Cymundeb y nos Sul honno, a chlywaf eto gryndod ei lais yn erfyn am ddeffro'r Samariad ynom. 'Roedd ei wallt, a fuasai'n ddudew ychydig flynyddoedd cyn hynny, bron yn wyn, a rhedai dwy rych ddofn i lawr hyd bob ochr i'w wyneb cerfiedig.

Rhof, mi rof y lliain gwyn i'r capel, er cof am fy mam a olchai liain y Cymundeb drwy'r blynyddoedd, er cof am Mr. Jones, "un o'r dynion nobla'," chwedl F'ewythr Huw — ac er cof am Twm Twm.


—————————————