Tudalen:O Law i Law.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bora Sadwrn am bapur i gael powdwr a chnotyn o ffiws. Mi bicia' i draw i'r cwt powdwr 'rŵan."

Tra oedd ef yn y caban, euthum i wal Ifan Jones i ofyn ei gyngor.

"Gad ti iddo fo, John," meddai Ifan Môn. "'Does 'na ddim ond un dyn yn y byd 'ma fedar 'i argyhoeddi o, a fo'i hun ydi hwnnw, wel'di. Mae'n amlwg fod yr hen chwaral 'ma wedi mynd yn drech na fo, ond 'tawn i ne' chdi yn dweud hynny wrtho fo, dyna godi 'i wrychyn o ar unwaith. Na, mae'n rhaid iddo fo ddweud hynny wrtho fo'i hun. 'Rydw' i'n mynd adra awr ginio heddiw."

"O?"

"Ydw', i . . i . . . i gynhebrwng yr hen Richard Morris. Ac fe ddaw dy dad adra hefo mi, 'gei di weld."

Celwyddwr go sâl oedd Ifan Môn.

"'Ydach chi'n mynd i'r cynhebrwng mewn gwirionadd?"

"Wel . . ." A rhoes winc fawr arnaf.

Euthum i lawr i'r twll i baratoi ar gyfer y saethu am un ar ddeg. Gwyddwn y cawn fwy o gerrig pe tyllwn ryw ddwy neu dair modfedd eto ymhellach i mewn i'r graig. Ymhen tipyn, brysiodd Trefor Williams ataf.

"'Ydi o'n saff ar yr ystol 'na, dywed?"

"Pwy, Trefor?"

"Dy dad. Mae o'n dŵad i lawr yma i'r twll."

Ar yr ysgol fawr haearn a hongiai ar y graig o'r bonc i waelod y twll, gwelwn fy nhad yn disgyn yn araf a phetrus. Brysiais i waelod yr ysgol.

"'Ydach chi'n iawn, 'nhad?" gwaeddais i fyny.

"Yn iawn? Ydw', wrth gwrs. Pam?"

"O, dim byd."

Disgynnodd yn araf i'r gwaelod, a safodd ennyd i sychu'r chwys oddi ar ei dalcen. Yna daeth hefo mi at y graig, gan edrych gyda chwilfrydedd plentyn bron ar y lle a dyllwn i'w saethu.

"Diawch, go dda, John. Dyna'n union y lle y baswn inna' yn 'i dyllu, fachgan. Fe ddaw 'na ddigon o gerrig inni o fan'ma, 'gei di weld. Digon am 'thefnos."

Mynnodd gael tyllu yn fy lle, a chadwodd hynny ef yn gynnes ac yn llon. Mynnodd hefyd gael fy helpu i baratoi'r powdwr a'r ffiws, ac ni synnwn i ddim na fuasai wedi tanio