Tudalen:O Law i Law.pdf/176

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llyfrau; Sylvia Jane, merch Dic Steil, yn ceisio ymddangos yn urddasol wrth gludo un llestr go amharchus o'r llofft heibio i Ned a Jim a ddigwyddai gyrraedd y tŷ ar y pryd. Na, ni chefais fawr o amser i feddwl amdanaf fy hun.

Ond erbyn hyn, yr wyf fy hunan bach yn y tŷ gwag. Nid oes cadair ar ôl, ac eisteddaf ar silff y ffenestr yn gwylio'r marwor yn y grât yn marw ac yn diffodd. O'm cwmpas y mae'r muriau noethion. Yn y fan acw, ar y mur i'r chwith imi, yr oedd y cloc y byddai fy nhad yn ei weindio'n ddiffael bob nos Sul; dano ef, yr hen harmoniym a chadair bob ochr iddi; yn y fan yma wrth y ffenestr, y soffa lle gorffwysai fy nhad lawer noswaith; wrth yr aelwyd, y gadair freichiau; tros y ffordd iddi, y gadair-siglo; rhwng honno a'r cwpwrdd llyfrau yn y gongl, yr ystôl haearn y gwastraffai fy mam, yn nhyb fy nhad, gymaint o'i hamser a'i hegni yn ei glanhau; wrth y mur gyferbyn â mi, y dresel dderw, a rhyngddi a'r drws sy'n arwain i'r lobi, gadair ag antimacasar coch a gwyn bob amser tros ei chefn.

Rhyfedd mor wag y gall tŷ gwag fod! Nid tŷ Sy'n gwneud cartref — nid mur a drws a ffenestr ac aelwyd — ond y pethau sydd ynddo, y lliain ar y bwrdd, y pot blodau a'r rhedyn ynddo yn y ffenestr, y papur newydd sy'n ymwthio i'r golwg dan glustog y soffa neu'r gadair freichiau, y Beibl mawr ar gongl y dresel, yr het galed a drawyd ar yr harmoniym, y sbilsen ar ochr y pentan, y gôt sy'n hongian tu ôl i'r drws. A'r gwacaf peth yn y byd yw cartref gwag.

Er hynny, ni theimlaf yn drist; ni wna'r gwacter a'r unigrwydd hwn imi dorri fy nghalon, fel y disgwyliaswn. Paham, tybed? Y mae mwy o syndod nag o dristwch yn fy meddwl, rhyw syfrdandod ffwndrus, oer, na allaf ei ddeall. Nid wyf fel petawn yn sylweddoli beth a ddigwyddodd imi; yr wyf fel dyn a gollodd ei ffordd mewn lle dieithr. Ai wrth yr aelwyd hon y chwaraewn yn blentyn? Ai i'r tŷ hwn y daeth F'ewythr Huw i aros atom? Ai yn y gegin hon y deuthum i adnabod cadernid pwyllog fy nhad a thynerwch tawel fy mam? Ai rhwng y muriau moelion hyn y magwyd fi, John Davies? Ai yma . . .? Ond cwestiynau fy syfrdandod ffwndrus, ffôl, yw'r rhai hyn.

Y dresel oedd y peth olaf un i adael yr hen gartref. Wedi