Tudalen:O Law i Law.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pren oraens, a chlywodd hwy'n tyngu y byddent yn ffyddlon i'w gilydd byth. Gyrrodd y pendefig Chang i ffwrdd ar unwaith, a chododd glawdd o amgylch y plas i'w gadw ymaith. Llifai afon gerllaw'r plas, ac un noson, pan syllai Koong-Se yn drist drwy'r ffenestr ar y dŵr yn llithro'n araf oddi tani, gwelodd gneuen goco'n nofio ar ei wyneb. Brys- iodd i lawr at yr afon, ac wedi iddi gael gafael yn y gneuen, darganfu fod ynddi neges oddi wrth ei chariad, Chang. "Pan syrth blagur yr helygen i'r llawr," meddai'r nodyn, "fe sawdd dy gariad ffyddlon gyda blodau'r lotus o dan y dŵr. "Dychrynodd hithau, ac ysgrifennodd ateb ar dabled o ifori a'i ollwng i nofio ar wyneb yr afon. "Onid yw'r amaethwr call," oedd ei neges i Chang, "yn casglu'r ffrwyth sydd ar gael ei ddwyn? "Neidiodd Chang at y gwahoddiad hwn i'w hachub o afael Ta-Jin, a daeth yno i'r plas yn ddistaw bach, liw nos, i'w dwyn hi ymaith. Dihangodd y ddau ar hyd y llwybr a redai dan gysgod y pren helyg a thros y bont tua bwthyn dinod garddwr y plas. Yno y cuddiasant am amser cyn dianc mewn cwch i gartref Chang ar yr ynys a ddangosir yng nghornel chwith y plât. A'r blwch o drysorau a ddug Ítoong-Se gyda hi yn gefn iddynt, ac athrylith Chang fel amaethwr yn troi tir yr ynys y ffrwythlonaf dan haul, aeth y su amdanynt ar led ac i glustiau'r pendefig yn y plas. Hwyliodd gyda'i filwyr tua'r ynys, gan fwriadu dwyn ei ferch yn ôl a'i rhoi'n wraig i Ta-Jin. Lladdwyd Chang ganddynt, ond rhoes Koong-Se ei chartref ar dân, gan ei llosgi ei hun i farwolaeth yn y fflamau. Troes y duwiau'r cariadon yn ddwy durtur, a dyna lle maent, yn y llun sydd ar y plât, yn hofran yn llawen yn yr awyr uwchben y plas a'r pren helyg a'r bont a'r bwthyn a'r cwch a'r ynys, yr olygfa a fu'n gefndir i ddrama fach brudd eu carwriaeth hwy.

Gwn y cymer 'Meri Ifans bob gofal o'r hen dresel a'i llestri, ac ar ôl ei dyddiau hi, bydd Ella yr un mor garedig wrthynt. Wedi i'r ddwy gario'r llestri ymaith mewn basged ddillad fawr, brysiodd Meri Ifans yn ôl i ddiolch imi. Ond prin y medrai ddweud gair, a chronnai'r dagrau yn ei llygaid.

"'Wna' i ddim trio diolch i chi, John Davies, meddai o r