Tudalen:O Law i Law.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dyn bychan hefyd oedd Wmffra Jones, y pwyswr. Collasai ef rai o'i fysedd yn y chwarel pan oedd yn gymharol ieuanc, a chafodd waith fel pwyswr yn y Bonc Isaf am weddill ei ddyddiau fel chwarelwr. Dyn tawel, dwys, oedd ef, a'i lygaid bob amser tua'r llawr ond pan godai hwy yn sydyn i daflu gwên tuag un o ddywediadau mawr Rhisiart Owen. Ni wn i am neb a welsai "lyfra'" yr hen Risiart Owen, ond pe galwech chwi yn nhŷ Wmffra Jones, âi â chwi i'r parlwr bron yn ddieithriad, i ddangos rhyw lyfr newydd a brynasai. Darllen barddoniaeth oedd ei hoffter mawr, ac yr oedd ef ei hun yn englynwr go dda, er mai pur anaml y mentrai gyhoeddi dim o'i waith. Gallaf gofio'i englyn i'r "Helygen" y munud yma; byddai F'ewythr Huw yn hoff o'i adrodd wrthyf.

"Dyry ei llun i'r dŵr llonydd;—chwery
Uwch araf afonydd.
Ar ei dail ai pwysau'r dydd
A'i boen a fyn obennydd?"

Tawedog iawn oedd Wmffra Jones, heb agor ei geg bron ond i atalnodi storïau Rhisiart Owen hefo ambell "Wel, wir," neu "Wel, wir i chi." Ond gallai f'ewythr ei gymell i adrodd englynion neu ddarnau o gywyddau yn weddol hawdd, a gwrandawai pawb yn astud a pharchus ar ei leferydd isel, mwyn. Ar ôl un o'r ysbeidiau hyn, fel rheol, y talai Rhisiart Owen wrogaeth iddo trwy ei gysylltu ef â'r "llyfra'" . . . "Mae'r llyfra'n deud — fel y gŵyr Wmffra Jones 'ma — . . ." Ac ymlaen ag ef â chlamp o stori am ryw dywysog neu uchelwr neu fardd yn "mynd trwy Goed y Glyn acw un dwrnod" neu yn "croesi'r llyn acw mewn cwrwgl, 'ydach chi'n dallt." Gan fod f'ewythr yntau yn ddarllenwr diwyd ac yn bur hoff o farddoniaeth, yr oedd ef ac Wmffra Jones yn gyfeillion mawr.

Gŵr byr, cloff, braidd yn dew, oedd Ben Francis — o ran ymddangosiad, dipyn uwchlaw gweddill y criw. Gwisgai wasgod silsgin a chadwyn aur ar ei thraws, ac yr oedd yn hoff hefyd o esgidiau go anghyffredin. Nid rhaid dywedyd y tynnai'r "esgidiau-dal-adar" hyn — fel rheol, rhai o ledr melyn ystwyth—holl ddirmyg Rhisiart Owen, y crydd. Yr oedd gan Ben Francis hefyd ddant aur ymhlith ei ddannedd-gosod, modrwy fawr ar fys bach ei law chwith, a chyrliai ei