Tudalen:O Law i Law.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gilydd yn mynd ymlaen rhwng Rhisiart Owen a Ben Francis am weddill yr wythnos honno. Gwelwyd y ddau hefyd yn pwnio Sergeant Davies yn ei ochr droeon. Yr oedd y Sergeant a Rhisiart Owen yn gryn gyfeillion, ac aml yr oedai ef ar y Bont i wrando ar ddoethineb yr hen frawd, gan gymryd arno daflu golwg eryraidd yr un pryd i lawr ac i fyny'r Stryd Fawr.

Yr oedd tyfiant pythefnos ar wyneb Ellis Ifans pan eisteddodd yng nghadair Richard Preis, tad y Preis a geidw'r siop yn awr, yn o hwyr y nos Sadwrn ganlynol. Wedi cynilo gartref am ddyddiau o dan rwymau'r annwyd, cawsai ddau neu dri pheint yn fwy nag arfer yn y Red Lion, ac yr oedd, o'r herwydd, yn hwyliog anghyffredin. Pan oedd Preis ar hanner yr oruchwyliaeth o eillio'r cnwd ar ei wyneb, dyma'r drws yn agor a Sergeant Davies yn camu i mewn yn bur awdurdodol.

"Be' 'di hyn, Preis?"

"Be' 'di be', Sergeant?"

"Be' 'di be', wir! Y siop 'ma ar agor o hyd."

"'Fydda' i ddim chwinciad, Sergeant. Dim ond gorffan Ellis Ifans 'ma."

"Rhaid i chi gau'r siop ar unwaith."

"Reit, Sergeant. Ar unwaith."

A phrysurodd Richard Preis i hogi'r rasal i eillio hanner arall wyneb Ellis Ifans.

"Preis!"

" Ia, Sergeant?"

"Mi glywsoch be' ddeudis i?"

"Do, Sergeant. Dim ond gorffan . . ."

"'Ydach chi am gael noson yn y rhinws?"

"Ond Sergeant bach, 'fedra' i ddim gadal yr hen Ellis Ifans heb . . ."

"Y ddeddf ydi'r ddeddf, Preis. Rhaid i chi gau'r siop y munud yma."

"Ond 'dydi Ellis Ifans ddim wedi cael shêf ers pythefnos, Sergeant, a dim ond un ochor i'w wynab o ydw' i wedi 'i 'neud."

"Y munud yina ddeudis i. Neu'r rhinws amdani. Dewiswch chi."

Ymunodd Rhisiart Owen a Ben Francis yn groyw iawn