Tudalen:O Law i Law.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

clywad geiria' fel'na ar dafod blaenor Wesla, a fynta'n hollol sobor, yn rhoi poen nid bychan imi."

"Poen ne' beidio, Rhisiart Owan, fì ddaru 'i gwthio hi ddwytha'."

Cafodd F'ewythr Huw hanes y daith honno ugeiniau o weithiau gan Ben Francis, ond go dawel fu Rhisiart Owen wedyn yn ei chylch. Yr oedd y ddau wedi llwyr ymlâdd çyn cyrraedd hanner y ffordd i Fryn Llus, ond yn ffodus iawn, dadebrasai Ellis Ifans gryn dipyn erbyn hynny, a medrodd lusgo adrcf yn araf a phoenus rhwng y ddau.

Wedi cyrraedd Bryn Llus, cawsant fod ei fab a'i ferch-yng-nghyfraith a'u plant yn eu gwelyau, ond yr oedd tân yn y grât a rhai llestri ar y bwrdd.

"'Wyt ti isio bwyd, 'r hen Êl?" gofynnodd Rhisiart Owen.

Nodiodd y claf a rhoi ei law ar ei ystumog. Rhoes Ben Francis ddŵr yn y tegell, ac aeth Rhisiart Owen ati i dorri bara-'menyn. Daethant o hyd i wyau ar silff y pantri, a dyna daro dau ohonynt mewn sosban i'w berwi.

"Mae'n rhaid 'i fod o'n well o lawar, wel'di, Ben," meddai Rhisiart Owen, wrth wylio'r claf yn cael blas anghyffredin ar ei fwyd.

"'I roi o yn 'i wely ddeudodd y Doctor, yntê, Rhisiart Owan? " meddai Ben Francis, wedi i'r bara-'menyn a'r ddau wy ddiflannu.

"Ia, ond mi wna'r tro os awn ni â fo i orwadd ar y soffa 'ma. Tyd, 'r hen Êl, iti gael tipyn o orffwys."

Ufuddhaodd Ellis Ifans, ond wedi iddo orwedd ar y soffa daeth pwl o lawcio'r awyr trosto, a brysiodd y ddau i roi potel o frandi iddo. Ond daliai'r colli-anadl a'r griddfan ar waethaf hynny.

"Be' sy arno fo, tybad, Ben?"

"Y botal yn wag, Rhisiart Owan. Lwc imi ddŵad à'r ddwy hefo mi."

"'Rargian fawr, 'ydi o wedi yfad potal gyfa'?"

"Ydi."

"Gwell inni beidio â rhoi chwanag iddo fo, Ben."

Ond dal i lawcio'r awyr ac ochneidio ac ysgwyd ei dafod yr oedd Ellis Ifans, ac agorodd Ben Francis yr ail botel a'i rhoi yn ei ddwylo. Tawelodd ar unwaith, ond pan estynnodd