Tudalen:O Law i Law.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ben ei law am y botel yn ôl, dangosodd y claf ei ddan- nedd fel anifail, a chwythu fel neidr.

"Gwell inni 'i gadal hi yma, Ben, " meddai Rhisiart Owen, ac wedi llyfnhau'r glustog yn ofalus dan ei ben, llithrodd y ddau yn dawel drwy'r drws ac allan i lwybr yr ardd.

Yr oeddynt wrthi'n cau'r ddôr fechan ar fin y ffordd pan glywsant ddrws Tyddyn Llus yn agor. Brysiodd y ddau yn ôl ar hyd llwybr yr ardd, ond safasant yn syfrdan wrth glywed chwerthin dwfn Ellis Ifans.

"'Fedrwn i ddim gadal i chi fynd heb ddiolch i chi, 'r hen hogia'."

"D . . diolch?" meddai Rhisiart Owen.

"Dim ond diolch yw fy nghân. Am y reid. Am y brandi. Am y swpar. Swpar reit dda hefyd a chysidro."

Caeodd Ben Francis ei ddyrnau a'u codi'n fygythiol, ac aeth gafael Rhisiart Owen hefyd yn dynnach yn ei ffon.

Ond pa siawns a oedd gan ddau gorrach yn erbyn cawr?

"Tyd, Ben," meddai Rhisiart Owen. "Paid â chymryd dim sylw ohono fo." A chamodd ei goesau bychain yn urddasol ar hyd llwybr yr ardd ac i'r ffordd.

"Cofiwch am y ferfa, hogia',"gwaeddodd Ellis Ifans ar eu holau o ddôr yr ardd. Troes Ben i ddangos ei ddyrnau, ond ymlaen yr aeth Rhisiart Owen â'i ben yn y gwynt — yn ffigurol, beth bynnag, gan nad oedd chwa o wynt y noson honno.

Cafodd F'ewythr Huw lawer o hwyl yn adrodd y stori ar ôl Ben Francis wrth fy nhad. Casglodd rai o'r ffeithiau hefyd oddi wrth un o ddeiliaid ffyddlonaf y Red Lion. Gwyddai hwnnw, er enghraifft, i Ellis Ifans, ymhen noswaith neu ddwy, dalu am dri gwydraid i'r Doctor Andrew, ac i'r ddau gael pyliau uchel o chwerthin rhwng pob llymaid.

"'Chi rhoi o yn gwely,' medde fi. ' At once. Very serious. Fi mynd tros y mountain i weld dyn sâl iawn yn Waun Goch. Chi roi o yn y gwely at once, Richard Owen. At once. Very serious!'"

Yr oedd y ddau yfwr wrth y bar yn hwyr y noson honno, a bu raid i ŵr y Red Lion, o'r diwedd, eu troi allan i'r nos.

Y maent yn eu beddau ers blynyddoedd, y cwmni diddan y soniai f'ewythr gymaint amdanynt, ac y treuliai gymaint o amser yn eu plith pan oeddwn i'n hogyn. Hynafgwyr