Tudalen:O Law i Law.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi gei di ddeud y stori i gyd, Sionyn, ar ôl iti gael swpar. Dos i'w nôl, 'rŵan, 'ngwas i. A thitha' Robat."

Rhaid oedd ufuddhau, ond ni bu cyfle y noson honno i ddweud dim o hanes fy niwrnod yn y chwarel. Yr oedd y peswch fel petai am ei fygu'n lân, ac ni châi ond ychydig funudau o lonydd ganddo.

Bu'n gorwedd ac yn pesychu felly am ryw bythefnos, a gwyddem, heb i'r Doctor ddweud gair wrthym, fod y diwedd yn agos. Arhosais i gartref o'r capel un nos Sul i fod yn gwmni iddo, a gwrandawem ein dau ar yr emynau'n nofio atom o bell drwy'r ffenestr agored. "O llefara, addfwyn Iesu," oedd yr olaf, a hymiai f'ewythr hi'n dawel gyda'r gynulleidfa.

"Estyn fy llyfr emyna' imi, John bach."

Rhoddais y llyfr iddo, a chofiaf ddychrynu wrth syllu ar ei ddwylo tenau, tenau, gwyn. Daeth o hyd i'r emyn, a chlywn ei anadl anesmwyth yn sibrwd y geiriau:

"O, llefara, addfwyn Iesu!
Mae dy eiria' fel y gwin,
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
Ag sydd o anfeidrol rin . . . "

Bu tawelwch, heb ddim ond anadlu trwm ac oriog f'ewythr yn torri arno. Edrychais o'r llyfr ar y dwylo a'r breichiau ac i fyny ar yr wyneb main, llwyd. Gwenodd f'ewythr arnaf, ac yna caeodd ei lygaid, a gwlychu ei wefusau. A gwelwn ran olaf yr emyn yn ysgrifen ar y gwefusau egwan, di-waed.

"Mae holl leisia'r greadigaeth,
Holl ddeniada' cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrytaf . . ."

Gwenodd eto ac agor ei lygaid cyn sibrwd y gair "tawel." Troes ei ben tua'r ffenestr am ennyd, fel pe i wrando ar sŵn y byd mawr tu allan, ac yna gwenodd drachefn a chau ei lygaid a sibrwd,

"Yn distewi a mynd yn fud."

Gwelais y llyfr yn llithro i'r llawr, a gwyddwn nad oedd yn rhaid brysio am ddoctor na neb. Nid oedd dychryn yn fy nghalon ac nid oeddwn eisiau wylo. Syrthiais ar fy ngliniau, peth na wneuthum erioed o'r blaen ond wrth ddweud fy mhader cyn cysgu, a diolchais i Iesu Grist am imi gael